Rhif 10 y Gogledd 'cymaint i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ag ydyw i Loegr' medd Burnham
Mae Andy Burnham wedi dweud bod Rhif 10 y Gogledd yn perthyn "cymaint i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ag ydyw i ranbarthau Lloegr", gan ddweud mai'r nod yw creu "teimlad o fod yn un tîm".
Bydd Prif Weinidog y DU yn cynnal ei gyfarfod cyntaf yno ddydd Gwener fel rhan o gynllun i ddatganoli mwy o bwerau o Whitehall a San Steffan.
Mae disgwyl i Mr Burnham weithio o'r swyddfa newydd yn Heron House, yng nghanol Manceinion, o leiaf unwaith yr wythnos.
Bydd y safle yn ganolfan ar gyfer penderfyniadau strategol ar ddatganoli a thwf economaidd lleol.
Wrth agor y swyddfa, dywedodd Mr Burnham mai'r bwriad yw creu "teimlad o fod yn un tîm" ar draws y DU.
"Mae Rhif 10 y Gogledd gymaint i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon ag ydyw i ranbarthau Lloegr," meddai.
"Os gallwn greu'r teimlad hwnnw, yna rwy'n credu bod cymaint yn bosib nad yw'n teimlo'n bosib ar hyn o bryd, a gallwn gael yr egni i lifo ledled y wlad."
Disgrifiodd Mr Burnham ei falchder wrth fwrw at ei waith am y tro cyntaf yn y swyddfa newydd.
"Ni allaf ddweud wrthych pa mor falch ydw i ar y foment hon," meddai.
"Rwy'n credu mai dyma efallai diwrnod gorau fy mywyd."
'Grym ym mhob cod post'
Cyfeiriodd at orfod gadael Manceinion bron i 35 mlynedd yn ôl oherwydd na allai ddod o hyd i swydd - profiad, meddai, "nad wyf byth wedi'i anghofio".
"Mae hynny'n wir am leoedd ledled y wlad. Er mwyn gwneud cynnydd mewn bywyd, roedd yn rhaid i chi adael lle'r oeddech chi, oherwydd nad oedd y cyfleoedd yno," meddai.
"Mae'r wlad wedi bod felly ers amser maith. Nid yw cyfleoedd wedi'u dosbarthu'n gyfartal ar draws y wlad, ac nid yw pob ardal wedi teimlo eu bod yn rhan o'r stori genedlaethol. Dyna'r union beth y bydd y llywodraeth hon yn gweithio bob dydd i'w newid.
"A dyna hanfod Rhif 10 y Gogledd: rhoi grym ym mhob cod post fel y gall pobl drawsnewid eu cymunedau eu hunain a sicrhau newid, yn union fel y mae'r ddinas wych hon wedi'i wneud, ac fel y mae dinasoedd eraill yn Lloegr yn ei wneud drwy ddatganoli."
Ychwanegodd mai'r nod yw sicrhau "bod y wlad gyfan yn wynebu'r un cyfeiriad ac yn cydweithio tuag at yr un nod".
Bydd y Prif Weinidog yn cadeirio cyfarfod o’r Cyngor Economaidd Cenedlaethol brynhawn dydd Gwener, sef pwyllgor cabinet a sefydlwyd yn wreiddiol yn 2008 i ymateb i heriau economaidd ledled y Deyrnas Unedig.
Bydd uwch weinidogion ac arweinwyr rhanbarthol yn bresennol, gyda’r nod o roi datganoli wrth galon cynlluniau’r llywodraeth.
Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd Mr Burnham fod grym ac adnoddau wedi’u canoli yn Llundain ers degawdau ond bod "dyddiau Whitehall yn gwrthsefyll datganoli bellach ar ben".
Beth fydd yn digwydd yn y Rhif 10 newydd?
Bydd penderfyniadau ar ddatganoli a datblygu economïau lleol yn cael eu harwain o Rif 10 y Gogledd, er y bydd y Trysorlys a’r Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn parhau i gyfrannu at y gwaith.
Mae’r Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner, sy’n cynrychioli etholaeth ar gyrion Manceinion, hefyd yn debygol o weithio o’r swyddfeydd newydd am y tro cyntaf ddydd Gwener.
Dywedodd y llywodraeth eu bod am gryfhau’r berthynas rhwng gweision sifil, meiri ac arweinwyr dinesig a rhanbarthol, cynghorau a’r sector busnes drwy uno elfennau o’r strategaeth ddatganoli a’r polisïau twf lleol.
Ond mae arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, wedi beirniadu cynlluniau Burnham, gan ddweud eu bod yn “rhy fach”. Dywedodd fod angen iddo fynd i’r afael â chostau ynni uchel i fusnesau a’r diffyg cyllid ar gyfer amddiffyn cyn unrhyw beth arall fynd a’i sylw.
Bydd Rhif 10 y Gogledd yn gweithredu dros dro o Heron House, sydd hefyd yn cynnwys swyddfeydd yr asiantaeth gudd-wybodaeth GCHQ.
Mae disgwyl i bencadlys parhaol y swyddfa agor yn ardal Ancoats ym Manceinion erbyn 2032.
