Rhieni yn galw am well gofal rhag alergedd yn ysgolion Cymru ar ôl marwolaeth mab
Mae rhieni bachgen pump oed a fu farw ar ôl dioddef adwaith alergaidd yn yr ysgol yn galw am gyflwyno deddf er mwyn ceisio atal hynny rhag digwydd i deuluoedd yng Nghymru.
Mae Helen a Nick Blythe wedi bod yn ymgyrchu dros y newidiadau ers i’w mab Benedict farw ar ôl dioddef adwaith anaffylactig (anaphylactic reaction) mewn ysgol yn Swydd Lincoln ym mis Rhagfyr 2021.
Mae disgwyl i ddeddfwriaeth ‘Deddf Benedict’ ddod i rym yn Lloegr yn 2027, ond maen nhw'n pryderu na fydd plant yng Nghymru yn cael eu diogelu yn yr un modd.
Dywedodd Helen Blythe: “Mae pob plentyn yn haeddu bod yn ddiogel yn yr ysgol, waeth pa ochr i’r ffin maen nhw’n byw.
“Ddylai teuluoedd yng Nghymru ddim gorfod aros blynyddoedd am fesurau diogelu sydd eisoes wedi cael eu cydnabod fel rhai angenrheidiol mewn mannau eraill.”
Mae’r ddeddf newydd yn Lloegr yn nodi’r disgwyliadau i ysgolion, sef:
- Cael polisi alergeddau
- Hyfforddi staff i adnabod ac ymateb i adweithiau alergaidd
- Cadw chwistrellwyr adrenalin awtomatig sbâr
- Darparu cynlluniau gofal iechyd unigol i blant y mae angen rheoli eu halergeddau yn yr ysgol.
Ychwanegodd Helen Blythe: “Mae gan Gymru gyfle i adeiladu ar y gwaith hwnnw yn hytrach na dechrau o’r newydd.
“Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymrwymo i fabwysiadu Deddf Benedict fel bod gan bob ysgol yr un safonau sylfaenol ar gyfer diogelwch alergeddau.
“Yn syml, nid yw’n deg y dylai plant ag alergeddau yng Nghymru ddychwelyd i’r ysgol yn yr hydref heb yr un mesurau diogelu â’r rhai y bydd plant yn Lloegr yn eu cael drwy Ddeddf Benedict.”
‘Tawelwch meddwl’
Yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Mihangel yn Nhrefforest, mae’r disgyblion Evie a Jayden eisoes yn gyfarwydd â rheoli eu halergeddau.
Dywedodd Evie: “Dyma fy nau EpiPen i, ac mae hyn i gyd yn dod adref gyda fi ac rwy’n mynd ag e gyda fi i bobman, ac mae’r ddau yma yn aros yn yr ysgol.”
Dywedodd Jayden: “Dw i’n bennaf yn trio osgoi bwydydd sydd â fy alergenau i ynddyn nhw, a dyna’r cyfan bron.”
Dywedodd fod ei ffrindiau hefyd yn ei helpu i reoli ei alergeddau.
“Ie, ac maen nhw’n ceisio gwirio’r cynhwysion yn y bwydydd maen nhw eisiau eu rhoi i mi os ydw i eisiau trio rhai.”
Mae’r brifathrawes Joanna Taylor wedi cyflwyno mesurau diogelwch alergeddau ychwanegol yn yr ysgol, gan gynnwys hyfforddiant i staff, EpiPens sbâr wedi eu hariannu gan yr ysgol, gwersi ymwybyddiaeth alergeddau a pholisi pecynnau cinio heb gnau.
Wrth ddangos ardal cymorth cyntaf a diogelu’r ysgol, dywedodd: “Felly dyma ein hardal cymorth cyntaf a diogelu.
“Fel y gallwch chi weld, mae’r ddau EpiPen yma yn barod i gael eu defnyddio. Dim ond ar ôl i ni ffonio 999 a chael cyfarwyddiadau y dylid eu defnyddio.
“Mae fy holl staff wedi cael eu hyfforddi ar sut i ddefnyddio’r EpiPen.”
Nid yw’n ofynnol yn gyfreithiol i ysgolion yng Nghymru gadw chwistrellwyr adrenalin awtomatig sbâr.
Ychwanegodd Joanna: “Mae cymaint o alergeddau y gall plant ac oedolion ddioddef ohonyn nhw heddiw, felly mae addysgu pawb yn helpu, on’d yw e?
“Ac mae’r tawelwch meddwl hwnnw yn amhrisiadwy.”
Ymateb
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae’n bwysig bod disgyblion sy’n byw gydag alergeddau yn cael eu cefnogi.
“Mae pob ysgol eisoes yn ddarostyngedig i ofynion cyfreithiol ac wedi cael canllawiau statudol, sy’n cynnwys cadw cofnodion, storio a rhoi meddyginiaethau, gweithdrefnau brys a gofynion hyfforddi staff i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion gofal iechyd, gan gynnwys alergeddau.
“Rydym ar hyn o bryd yn adolygu’r canllawiau statudol presennol ac fe fyddwn yn ystyried Deddf Benedict er mwyn llywio polisi yng Nghymru yn y dyfodol.”