Rhes o dai yng Nghwm Tawe yn parhau’n wag bron i ddegawd ar ôl i bobl orfod gadael
Mae rhes o dai yng Nghwm Tawe yn parhau yn wag bron i ddegawd ar ôl i’r trigolion yno orfod gadael eu tai.
Mae cynlluniau i ddymchwel y 10 o dai gwag ar Heol Cyfyng yn Ystalyfera ar ôl i’r trigolion orfod gadael ar frys yn 2017.
Fe orfodwyd i bobol bacio a gadael y tai yn sydyn yn 2017 ar ôl i’r cyngor benderfynu eu bod mewn “perygl uniongyrchol”.
Fe wnaeth Cyngor Castell-nedd Port Talbot gyflwyno gwaharddiad ar ganiatáu i unrhyw un fyw yn y tai er lles eu diogelwch eu hunain.
Fe heriodd trigolion y gorchmynion hyn yn 2018, yn dilyn arolwg annibynnol a gomisiynwyd ganddyn nhw, ac roedden nhw’n teimlo bod hwnnw’n dangos na ddylid bod wedi’u gorfodi i adael.
Ond fe benderfynodd Tribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru bod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi dangos fod yna “risg o niwed difrifol i iechyd a diogelwch”.
Bron i naw mlynedd yn ddiweddarach, gyda’r rhan fwyaf o’r tai yn dal i sefyll, dywedodd un o’r perchnogion sy’n weddill ei fod mewn cyflwr o ansicrwydd ariannol.
Dywedodd Gabe Thomas, a oedd yn arfer rhentu un o’r tai i denantiaid, ei fod yn ofni y gallai golli miloedd o bunnoedd os na fydd Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gwneud cynnig i’w brynu.
Dywedodd fod gwaharddiad y cyngor yn atal unrhyw un rhag byw yno, ond bod ei gwmni yswiriant yn credu nad oes difrod penodol y gall hawlio arian amdano.
“Fe brynais i’r tŷ fel eiddo buddsoddi ac wedyn ei rentu allan, ac roedd yn gymuned fach braf i’r bobl oedd yn byw yma,” meddai Gabe Thomas.
“Mae wedi bod yn anodd oherwydd dyw’r peth heb symud ymlaen, a dwi ddim wir yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd.
“I fi, dwi jest yn trio anghofio amdano fe achos mae’r cyfan yn peri gofid, ond fy ngobaith i yw y byddai’r cyngor yn gwneud cynnig synhwyrol.”
'Llai o darfu'
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot eu bod wedi cymryd perchnogaeth o nifer o’r tai yn y rhes wag, ac mai’r bwriad o hyd oedd dymchwel y tai.
“Yn ystod y chwe blynedd ers i’r Gorchmynion Dymchwel gael eu cyhoeddi ar gyfer pob eiddo yn y teras, mae’r cyngor wedi cymryd perchnogaeth ar bum eiddo ac wedi dymchwel tri, gyda throsglwyddiad tri eiddo arall bron wedi’i gwblhau,” medden nhw.
“Unwaith y bydd bloc o dai cyfagos yn y teras ym meddiant y cyngor, byddan nhw’n cael eu dymchwel gyda’i gilydd gan fod hynny’n fwy diogel ac yn achosi llai o darfu i’r gymuned leol na dymchwel tai fesul un.
“O ran yr amser y mae wedi’i gymryd i ddatrys y materion hyn, bu’n briodol i’r cyngor roi amser i berchnogion yr eiddo fynd drwy’r broses apelio lawn ar unrhyw hawliadau yswiriant a gafodd eu gwrthod, gyda’r cyngor yn darparu gwybodaeth i gefnogi perchnogion yn y broses honno. Bu rhai perchnogion yn llwyddiannus yn y broses apelio ond, yn anffodus, ni fu eraill.
“Mae pob perchennog eiddo wedi cael gwybod am y broses trosglwyddo perchnogaeth, ac mae’r rhai sydd angen cyfreithiwr wedi cael cyngor i benodi un i’w cynrychioli fel rhan o’r broses gyfreithiol.
“Mae’r cyngor yn parhau’n barod i ymgysylltu â’r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw a’u cefnogi er mwyn galluogi’r broses i symud ymlaen.”