Rheithgor yn clywed nad oedd troseddau Ian Watkins 'yn cyfiawnhau ei ladd'

Ian Watkins

Doedd troseddau ffiaidd y pedoffeil Ian Watkins “ddim yn cyfiawnhau mewn unrhyw ffordd ei ladd”, clywodd rheithgor ddydd Llun.

Bu farw cyn brif leisydd y band Lostprophets, o Bontypridd, wedi ymosodiad yn ei gell yng ngharchar diogelwch uchel HMP Wakefield ar 11 Hydref y llynedd.

Mae Llys y Goron Leeds wedi clywed bod Rico Gedel wedi trywanu Watkins deirgwaith â llafn, cyn ei rhoi i Samuel Dodsworth, a’i taflodd mewn bin.

Mae’r carcharorion Gedel, 25, a Dodsworth, 44, ill dau yn gwadu llofruddiaeth a bod â chyllell yn eu meddiant yn y carchar.

Wrth gloi ei ddadl i’r rheithgor ddydd Llun, dywedodd yr erlynydd Tom Storey KC nad oedd Watkins wedi “gwneud dim byd o gwbl i ysgogi’r ymosodiad hwn yn yr amser cyn iddo ddigwydd”.

“Waeth pa mor ffiaidd oedd ei droseddau, nid oedd hynny’n cyfiawnhau ei ladd mewn unrhyw ffordd,” meddai.

Wrth roi ei gyfarwyddiadau cyfreithiol i’r rheithgor yn gynharach, dywedodd y barnwr, Mr Ustus Hilliard, fod Watkins “wedi cyflawni troseddau difrifol iawn, ond mae’n amlwg na ddylai fod wedi colli ei fywyd yn y carchar”.

“Ni all unrhyw gydymdeimlad sydd gennych am yr amgylchiadau hynny chwarae unrhyw ran yn eich trafodaethau,” meddai wrth y rheithgor.

Dywedodd y barnwr na ddylai’r rheithgor benderfynu’r achos ar sail “cydymdeimlad neu anghymeradwyaeth y naill ffordd neu’r llall”, ac na ddylen nhw ychwaith “bryderu am ganlyniadau unrhyw reithfarn benodol”.

Dywedodd wrthyn nhw y dylen nhw gynnal “archwiliad pwyllog, tawel, gofalus a diduedd o’r dystiolaeth yn yr achos”.

Dywedodd Mr Ustus Hilliard na ddylen nhw “ymchwilio” i dystiolaeth Gedel am ei gyfnod yn y carchar, a oedd yn cynnwys honiadau ei fod yn casáu cael ei gadw gyda throseddwyr rhyw yn HMP Wakefield a’i fod wedi bygwth ymosod ar “unrhyw nifer o bedoffiliaid” pe na bai’n cael ei drosglwyddo.

Dywedodd y barnwr wrth y rheithgor mai dim ond ochr Gedel o’r stori honno roedden nhw wedi’i chlywed, gan ychwanegu: “Nid ydych chi wedi clywed gan y rhai sy’n rhedeg gwahanol garchardai a allai egluro sut a pham maen nhw’n cael eu rhedeg gyda’r adnoddau sydd ganddyn nhw a’r problemau y mae’n rhaid iddyn nhw ddelio â nhw.”

Dywedodd nad oedd anghytuno bod Gedel yn euog o ddynladdiad o leiaf, a bod cytundeb yn y llys bod “anaf bwriadol, a achoswyd yn anghyfreithlon, wedi achosi marwolaeth Ian Watkins”.

“Rhaid i’r erlyniad brofi fod Rico Gedel naill ai wedi bwriadu lladd Ian Watkins neu achosi niwed difrifol iawn iddo pan wnaeth hynny,” meddai’r barnwr.

Cafodd Watkins ei garcharu am 29 mlynedd ym mis Rhagfyr 2013, gyda chwe blynedd arall ar drwydded, ar ôl cyfaddef cyfres o droseddau rhyw, gan gynnwys ceisio treisio babi.

Mae’r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.