Reform yn cyfeirio Zack Polanski i'r heddlu ar ôl neges crys-T
Mae Reform UK wedi cyfeirio arweinydd y Blaid Werdd, Zack Polanski, i'r heddlu ar ôl iddo rannu neges ar y cyfryngau cymdeithasol oedd yn cynnwys llun o ddyn yn gwisgo top gyda'r enw "Nigel" arno ochr yn ochr â delwedd o gilotîn.
Dywedodd arweinydd Reform UK, Nigel Farage: "Pe bawn i'n postio unrhyw beth sy'n annog trais fel hyn, byddwn i'n disgwyl cael fy arestio, ac felly hefyd y dylai Polanski."
Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd: "Unwaith y daeth y ddelwedd hon i sylw [Zack], tynnodd y neges i lawr ar unwaith. Nid yw'n cefnogi'r math hwn o neges beryglus o gwbl."
Dywedodd Heddlu’r Met eu bod nhw’n ymchwilio i’r mater.
Dywedodd y llu: "Cawsom adroddiad gan drydydd parti yn ymwneud â delwedd a rannwyd ar y cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn cymryd adroddiadau o'r math hwn o ddifrif mawr, ac mae swyddogion yn cynnal ymholiadau ynghylch y mater."
Llun: Wikidata