Reform ‘yn barod i lywodraethu’ os nad oes gan Blaid Cymru gefnogaeth y Senedd

Reform Dan Thomas PA

Bydd arweinydd Reform UK yng Nghymru yn dweud yng nghynhadledd ei blaid ddydd Gwener fod ei blaid yn barod i lywodraethu yng Nghymru os na all Blaid Cymru wneud hynny.

Methodd Plaid Cymru a sicrhau cefnogaeth i’w chyllideb atodol yn y Senedd mewn pleidlais ym mis Gorffennaf.

Os nad oedd Plaid Cymru yn gallu sicrhau cefnogaeth i’w mesurau ariannol yn y Senedd, roedd Reform yn barod i lywodraethu “er budd pobl Cymru,” meddai Dan Thomas, arweinydd Reform yng Nghymru.

Bydd cynhadledd Reform yn dechrau yn yr NEC yn Birmingham ddydd Gwener.

Wrth siarad cyn ei araith fore Gwener, dywedodd Dan Thomas AS: “Rydyn ni wedi dangos ers yr etholiad ein bod ni’n gallu dod â phobl ynghyd yn y Senedd, a’n bod ni’n gallu rhoi llais i’r rhai sydd heb lais.

“Yn y cyfamser, dydy Plaid Cymru ddim wedi gallu sicrhau cefnogaeth i’w mesurau ariannol ym Mae Caerdydd. 

“Os bydd y duedd honno’n parhau, mae’n anodd gweld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn para tan ddiwedd y tymor.

“Fel yr wrthblaid fwyaf a mwyaf effeithiol yn hanes y Senedd, rydyn ni’n barod i ymgymryd â’r awenau a llywodraethu er budd Cymru.”

‘Llais cry’

Ddydd Mercher dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth bod ei lywodraeth wedi dysgu "gwersi" ar ôl i'w gynlluniau gwariant gael eu trechu yn y Senedd.

Ychwanegodd Mr ap Iorwerth fod trafodaethau eisoes wedi dechrau i osgoi ailadrodd hynny pan fydd cyllideb llywodraeth Cymru yn cael ei thrafod.

Addawodd y byddai ei lywodraeth yn "gwella'r ffordd yr ydym yn ymgysylltu ag eraill".

Ond dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru ei fod yn credu bod grŵp ei blaid yn y Senedd wedi profi mai nhw yw’r unig ddewis credadwy yn lle Plaid Cymru ers etholiad mis Mai. 

Mae disgwyl iddo ddweud wrth y gynhadledd fod Reform wedi ennill cefnogaeth i dri chynnig yn ystod ei 100 diwrnod cyntaf fel gwrthblaid yn y Senedd. 

Roedd y cynigion yn ymwneud â thwbercwlosis buchol, diogelwch cyfreithiol i bobl sy’n gadael gofal, a chofrestr lobïwyr i Gymru.

Yn ystod ei araith fe fydd yn dweud: “Rydyn ni wedi bod yn llais cryf dros y cymunedau a bleidleisiodd drosom ni sydd wedi cael eu gadael ar ôl.”

Bydd yr Aelod o’r Senedd dros Gasnewydd Islwyn hefyd yn cyhoeddi y bydd grŵp Reform yn cyflwyno cynnig yn ystod wythnos gyntaf y tymor newydd. 

Bydd yn galw am fwy o gynrychiolaeth i Gymru ar ymchwiliad annibynnol y DU i gangiau sy’n paratoi plant i gael eu cam-drin yn rhywiol.

Bydd Mr Thomas yn dweud bod yr achos dros gynnal ymchwiliad wedi cryfhau ers etholiad y Senedd.

“Rydyn ni’n disgwyl i bob plaid wneud y peth iawn a chefnogi ein galwad am weithredu.”

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.