‘Ras yn erbyn amser’ i drefnu etholiadau yn Lloegr ar ôl tro pedol
Mae cynghorau yn Lloegr yn wynebu “ras yn erbyn amser” i drefnu etholiadau ar ôl tro pedol gan Lywodraeth y DU ar eu cynnal.
Cafodd 30 o gynghorau wybod ddydd Llun y bydd disgwyl iddyn nhw gynnal etholiadau ar 7 Mai, yr un diwrnod ag etholiad Senedd Cymru.
Roedd Llywodraeth y DU wedi dweud wrth y cynghorau yn wreiddiol na fyddai disgwyl iddyn nhw gynnal etholiadau am eu bod nhw’n cael eu had-drefnu’r flwyddyn ganlynol.
Dywedodd Laura Lock, dirprwy brif weithredwr Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol, eu bod nhw wedi “colli misoedd o waith paratoi”.
“Mae etholiadau lleol yn gymhleth iawn – llawer mwy felly nag etholiad cyffredinol, er enghraifft.
“Mae’r timau hyn bellach yn wynebu brwydr anodd i ddal i fyny i ble y dylen nhw fod,” meddai.
“Maen nhw wedi oedi cynllunio i osgoi cost ddiangen, ond mae hyn yn golygu eu bod bellach yn ceisio dal i fyny.”
Penderfynwyd cynnal yr etholiadau ar ôl i blaid Nigel Farage, Reform UK, lansio adolygiad barnwrol yn yr Uchel Lys yn dadlau y dylid eu cynnal.
Dywedodd Mr Farage mewn darn barn ym mhapur newydd y Daily Telegraph fod y penderfyniad yn “nodi buddugoliaeth i 4.6 miliwn o bleidleiswyr”.
“Nid yw democratiaeth bob amser yn gyfleus,” ysgrifennodd. “Nid yw bob amser yn arwain at y canlyniad yr hoffech chi. Dyna pam ei fod yn bwysig.”
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Dai a Llywodraeth Leol Llywodraeth y Deyrnas Unedig:
“Ar ôl cyngor cyfreithiol, mae’r llywodraeth wedi tynnu ei phenderfyniad gwreiddiol i ohirio 30 etholiad lleol ym mis Mai yn ôl.
“Rhoi sicrwydd i gynghorau ynghylch eu hetholiadau lleol yw’r peth pwysicaf nawr a bydd pob etholiad lleol yn mynd rhagddo ym mis Mai 2026.”
Llun gan Ben Birchall / PA.