RAF Fairford: Pump gafodd eu harestio wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth

RAF Fairford

Mae'r pum dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â chynllun honedig i fomio maes awyr RAF Fairford yn Sir Gaerloyw wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth, yn ôl Heddlu Gwrth Derfysgaeth.     

Wrth siarad y tu allan i Scotland Yard, dywedodd y Comisiynydd Cynorthwyol Laurence Taylor nad yw hynny'n golygu bod yr ymchwiliad ar ben.  

Ychwanegodd eu bod nhw yn dal i fod yn destun ymchwiliad wrth i'r heddlu fwrw golwg ar sawl ongl.  

Fe wnaeth e hefyd annog y cyhoedd i barhau i fod ar eu gwyliadwraeth. 

Yn gynharach ddydd Llun, cyhoeddodd y llu fod y pump yn ddynion Prydeinig o Lundain ac yn eu hugeiniau.

Mae'r heddlu yn ymchwilio i weld a oes cysylltiad rhwng Iran a chynllun terfysgol honedig yn targedu'r ganolfan filwrol sydd yn cael ei defnyddio gan awyrennau bomio'r Unol Daleithiau.

Cafodd pump o ddynion eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau yn ymwneud â ffrwydron a therfysgaeth ar ôl i heddlu arfog atal tair fan oedd yn teithio tuag at RAF Fairford yn oriau mân y bore ddydd Sul.

Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn ddiweddarach fod y grŵp, a gafodd eu dal ym mhentref cyfagos Whelford "yn bwriadu achosi difrod mawr".

Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Wes Streeting, na ddylai'r DU gael ei "dychryn gan fygythiadau milwrol Iran" na chaniatáu i'r wlad "reoli ein polisi tramor" wrth iddo siarad fore Llun.

Mae gwasanaeth newyddion PA yn dweud eu bod yn deall nad oedd yr heddlu yn ymwybodol o unrhyw gynllun i dargedu'r maes awyr o flaen llaw.

Fe wnaeth un o’r trigolion lleol ffonio 999 ar ôl gweld y faniau yn “blocio’r ffordd”, cyn gweld “grŵp mawr o ddynion mewn cyflau (hood) ac yn gwisgo balaclafas”.

Dywedodd wrth PA: “Mae’n ymddangos, drwy wneud hynny, fy mod i wedi rhoi stop ar beth bynnag roedden nhw’n ei gynllunio.”

Fe ddaeth yr heddlu i’r safle tua 15 munud ar ôl iddi gysylltu â nhw, meddai.

Ychwanegodd y ddynes fod trigolion ar y pryd yn deall bod y ganolfan wedi’i rhoi dan glo oherwydd “bygythiad terfysgol”.

“Ddylai hi ddim bod yn fater i aelod dewr o’r cyhoedd sylwi ar weithgarwch anarferol am 01:00 pan fo’r ganolfan awyr ar lefel uchel o rybudd,” meddai wrth PA.

“Dwi’n meddwl ei fod yn gwbl syfrdanol.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.