Dyn o Langollen gafodd ei anafu mewn damwain yn Tsieina ar ei ffordd adref
Mae dyn ifanc o Langollen, gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn damwain feic yn Tsieina, wedi dechrau ei daith adref i Gymru ar ôl saith wythnos yn yr ysbyty.
Fe gafodd Dyfan Hughes ei anafu mewn gwrthdrawiad â lori wrth deithio drwy Tsieina fel rhan o daith seiclo elusennol o Langollen i Wlad Thai.
Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol am 12:34, amser Cymru ddydd Llun, fe rannodd y criw lun o Dyfan wrth iddo ddechrau’r daith i Gymru gyda’r neges: ‘Amser mynd adref!’
Roedd Dyfan wedi hedfan o Chengdu i Hong Kong, cyn paratoi ar gyfer hediad o tua 14 awr i Heathrow.
Oddi yno, bydd yn teithio mewn ambiwlans i Wrecsam.
Dywedodd Dyfan dros y penwythnos ei fod wedi cael cadarnhad gan ei yswirwyr y gallai hedfan adref, ar ôl saith wythnos yn yr ysbyty yn Tsieina.
"Roedd o'r newyddion gorau dwi wedi ei glywed ers tro," meddai.
"Dwi o'r diwedd yn dod adref ddydd Llun.
"Mae o'n mynd i fod yn ddiwrnod hir iawn o deithio ac mae'n mynd i gymryd mwy na 30 awr i gyrraedd adref.
"Dwi'n cyfri'r oriau rŵan. Dwi methu aros i weld fy ffrindiau a fy nheulu."
Bydd doctor a nyrs gydag ef drwy gydol y daith.
Cychwynnodd Dyfan ar y daith gyda’i ffrindiau James Thomas a Louis Dennis ym mis Awst y llynedd.
Mae’r tri wedi seiclo drwy nifer o wledydd yn Ewrop ac Asia, gan gynnwys Uzbekistan, Tajikistan a Kyrgyzstan, cyn cyrraedd Tsieina ddechrau mis Mehefin.
Maen nhw’n codi arian er cof am dad eu ffrind Harrison, a fu farw o broblemau gyda’i galon.
Cafodd y daith ei gohirio yn dilyn damwain Dyfan, gyda’i rieni yn teithio i Tsieina i fod gydag ef yn yr ysbyty.
Mae’r criw wedi dweud eu bod yn bwriadu dychwelyd at y daith pan fydd hi’n ddiogel i Dyfan feicio eto, gyda’r nod o gyrraedd Chiang Mai yng Ngwlad Thai yn y pen draw.