Caniatáu cais am 36 o gartrefi fforddiadwy yng Nghaernarfon

Tyddyn Fletcher

Mae cais cynllunio ar gyfer 36 o gartrefi fforddiadwy yng Nghaernarfon wedi derbyn caniatâd cynllunio brynhawn dydd Llun.

Clywodd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd mai'r bwriad gan gymdeithas dai Adra oedd adeiladu 10 fflat, tri byngalo a 23 o dai ar dir ger Ffordd Llanberis y y dref.

Roedd cefnogaeth i'r datblygiad o'r enw Tyddyn Fletcher gan y gymuned leol ac roedd Cyngor Tref Caernaefon hefyd yn cefnogi'r cais.

Yn ôl y cais oedd yn cael ei ystyried gan y cynghorwyr ar y pwyllgor cynllunio, bydd pob uned ar y safle yn fforddiadwy, "gan gynnwys cymysgedd o dai rhent cymdeithasol a thai rhent canolradd." 

"Yn ogystal â’r anheddau, bydd y cynllun yn cynnwys mynedfa a ffordd ystâd, mannau parcio, llecynnau agored ac ardal draenio gynaliadwy a gwaith tirlunio cysylltiedig."

Cafodd y cais ei basio'n unfrydol gan y 12 aelod o'r pwyllgor.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.