RAF Fairford: Pump gafodd eu harestio 'yn ddynion Prydeinig o Lundain'
Mae'r pum dyn a gafodd eu harestio mewn cysylltiad â chynllun honedig i fomio maes awyr RAF Fairford yn Sir Gaerloyw i gyd yn ddynion Prydeinig o Lundain ac yn eu hugeiniau, yn ôl yr heddlu gwrthderfysgaeth.
Mae'r heddlu yn ymchwilio i weld a oes cysylltiad rhwng Iran a chynllun terfysgol honedig yn targedu'r ganolfan filwrol sydd yn cael ei defnyddio gan awyrennau bomio'r Unol Daleithiau.
Cafodd pump o ddynion eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau yn ymwneud â ffrwydron a therfysgaeth ar ôl i heddlu arfog atal tair fan oedd yn teithio tuag at RAF Fairford yn oriau mân y bore ddydd Sul.
Dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, yn ddiweddarach fod y grŵp, a gafodd eu dal ym mhentref cyfagos Whelford "yn bwriadu achosi difrod mawr".
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Wes Streeting, na ddylai'r DU gael ei "dychryn gan fygythiadau milwrol Iran" na chaniatáu i'r wlad "reoli ein polisi tramor" wrth iddo siarad fore Llun.
Mae gwasanaeth newyddion PA yn dweud eu bod ar ddeall nad oedd yr heddlu yn ymwybodol o unrhyw gynllun i dargedu'r maes awyr o flaen llaw.
Fe wnaeth un o’r trigolion lleol ffonio 999 ar ôl gweld y faniau yn “blocio’r ffordd”, cyn gweld “grŵp mawr o ddynion mewn cyflau (hood) ac yn gwisgo balaclafas”.
Dywedodd wrth PA: “Mae’n ymddangos, drwy wneud hynny, fy mod i wedi rhoi stop ar beth bynnag roedden nhw’n ei gynllunio.”
Fe ddaeth yr heddlu i’r safle tua 15 munud ar ôl iddi gysylltu â nhw, meddai.
Ychwanegodd y ddynes fod trigolion ar y pryd ar ddeall bod y ganolfan wedi’i rhoi dan glo oherwydd “bygythiad terfysgol”.
“Ddylai hi ddim bod yn fater i aelod dewr o’r cyhoedd sylwi ar weithgarwch anarferol am 01:00 pan fo’r ganolfan awyr ar lefel uchel o rybudd,” meddai wrth PA.
“Dwi’n meddwl ei fod yn gwbl syfrdanol.”