RAF Fairford: Arestio dyn ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd terfysgol
Mae dyn wedi ei arestio ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd terfysgol ynglŷn â digwyddiad mewn maes awyr milwrol yn Lloegr.
Cafodd dyn 27 oed, sydd â dinasyddiaeth ddeuol Brydeinig ac Iranaidd, ei arestio ym Mwrdeistref Westminster yn Llundain yn dilyn digwyddiad yn RAF Fairford yn Sir Gaerloyw ar 27 Medi.
Cafodd ei arestio ar amheuaeth o baratoi gweithredoedd terfysgol o dan Adran 5 o Ddeddf Terfysgaeth 2006.
Mae ail ddyn, 26 oed ac sy’n ddinesydd Prydeinig, hefyd wedi cael ei holi dan rybudd.
Mae pump o ddynion yn eu 20au, a gafodd eu harestio ar 27 Medi, yn parhau ar fechnïaeth yr heddlu.
