Pwy yw Matthew Rhys? O Ysgol Glantaf i lwyfan yr Emmys

Llun: Apple TV/Netflix
Matthew Rhys

Ymhell cyn creu hanes yng ngwobrau Emmy, bachgen o Gaerdydd oedd Matthew Rhys, yn dysgu perfformio drwy’r ysgol, y capel a’r Urdd.

Mae'r actor wedi dod y person cyntaf i ennill dwy wobr am brif rôl actio mewn un noson yn yr Emmys, am ei berfformiadau yn Widow’s Bay a The Beast in Me.

Wrth dderbyn ei ail wobr, Cymru oedd ar ei feddwl, gan ddiolch i’r bobl oedd wedi helpu i’w feithrin. Ond sut wnaeth ei yrfa fynd ag ef o brifddinas Cymru i lwyfan rhai o wobrau teledu mwyaf y byd?

Image
Matthew Rhys
Llun gan Reuters

Y camau cyntaf yng Nghymru

Cafodd Matthew Rhys ei eni yng Nghaerdydd yn 1974, a derbyn ei addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Melin Gruffydd ac Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Yn 17 oed, chwaraeodd Elvis Presley mewn sioe gerdd ysgol, cyn gwneud cais i astudio yn academi ddrama RADA yn Llundain.

Wrth siarad mewn pennod arbennig o Sgwrs Dan y Lloer ar S4C yn 2021, fe wnaeth son am ddylanwad "Mrs Jones Drama" a'r ffordd lywiodd ei fagwraeth ei yrfa. 

"Ma 'na wirionedd mawr yn y ffaith ma sawl elfen i’n ieuenctid i nath yn sicr helpu fi’n enfawr," meddai.

“Odd y steddfod yn ran mawr, ysgol sul, capel, y set fawr, jest bod o flaen cynulleidfa a wedyn ysgol odd y rhan arall.”

Roedd ei ffrind Ioan Gruffudd, actor sy'n adnabyddus am ei rannau yn y ffilmiau Titanic a Fantastic Four, hefyd wedi helpu i ddangos y ffordd. Roedd y ddau wedi mynd i’r un ysgolion a’r un capel yng Nghaerdydd, gyda Iioan Gruffudd flwyddyn yn hŷn.

Yn ôl Rhys, gweld ei ffrind yn mynd i RADA wnaeth wneud iddo sylweddoli bod modd ennill bywoliaeth drwy actio, gan ei ysbrydoli i ddilyn yr un llwybr.

Bu’r ddau wedyn yn rhannu cartref yn Kilburn, gogledd Llundain, am ddeg mlynedd, gan siarad Cymraeg â’i gilydd.

Image
Ioan Gruffydd a Matthew Rhys
Ioan Gruffydd a Matthew Rhys (Llun: PA)

Graddiodd Rhys o RADA yn 1996, a dechreuodd adeiladu gyrfa ar y sgrin a’r llwyfan.

Ymhlith ei waith cynnar oedd y ffilm Gymraeg Bydd yn Wrol, a enillodd wobr actor gorau Bafta Cymru iddo yn 1998.

Cafodd hefyd ran Boyo yn House of America, dan gyfarwyddyd Marc Evans, ac ymddangosodd yn y gyfres heddlu Backup ar y BBC.

Daeth cyfleoedd ar lwyfannau Llundain hefyd, gan gynnwys chwarae Benjamin yn The Graduate gyferbyn â’r actores Americanaidd Kathleen Turner.

Y cyfle yn America

Daeth un o drobwyntiau mawr ei yrfa yn 2006, pan gafodd ran y cyfreithiwr Kevin Walker yn y ddrama deuluol Americanaidd Brothers & Sisters.

Image
Brothers and Sisters
Fe chwaraeoedd ran Kevin Walker yn y gyfres Brothers and Sisters (Llun: ABC)

Symudodd i Santa Monica ar ôl cael y rhan, a bu’r gyfres ar y sgrin am bum tymor, tan 2011. Roedd yn gyfle iddo ddod yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd teledu America.

Yn ystod y cyfnod hwnnw, parhaodd i weithio ar ffilmiau â chysylltiadau Cymreig, gan chwarae Dylan Thomas yn The Edge of Love.

A daeth cyfle i weithio gyda Marc Evans eto ar Patagonia, y ffilm Gymraeg a Sbaeneg Patagonia. Roedd yn chwarae rhan Mateo, tywysydd sy’n croesawu cwpl o Gymru i’r Wladfa.

Roedd Nia Roberts, Matthew Gravelle a Duffy hefyd ymhlith cast y ffilm, sy’n dilyn dwy daith rhwng Cymru a’r Ariannin. Cafodd ei dangos am y tro cyntaf yn 2010, cyn cyrraedd sinemâu Prydain yn 2011.

Image
Patagonia
Nia Roberts a Matthew Rhys yn y film Patagonia

Yna, yn 2013, daeth The Americans.

Chwaraeodd Philip Jennings, ysbïwr Sofietaidd sy’n byw fel Americanwr yn ystod y Rhyfel Oer. Keri Russell oedd yn chwarae ei wraig, Elizabeth, sydd hefyd yn ysbïwr.

Bu’r gyfres yn rhedeg am chwe chyfres ac am ei berfformiad yn y tymor olaf y cafodd Rhys ei Emmy cyntaf yn 2018, fel yr actor gorau mewn prif rôl mewn cyfres ddrama.

Image
The American
The Americans (Llun: FX)

Dilynodd hynny gyda phrif ran Perry Mason ar HBO. Ar y sgrin fawr, mae hefyd wedi chwarae Daniel Ellsberg yn ffilm Steven Spielberg The Post, a’r newyddiadurwr Lloyd Vogel yn A Beautiful Day in the Neighborhood.

Erbyn hyn, mae ei lwyddiant diweddaraf yn golygu ei fod wedi ennill Emmy am brif rôl mewn drama, comedi a chyfres fer.

Cadw’r Gymraeg yn rhan o’i fywyd

Bydd cyfle arall i gynulleidfaoedd ei glywed yn perfformio yn Gymraeg ddydd Nadolig, wrth iddo leisio Han Solo yn Star Wars: Gobaith Newydd ar S4C.

Mae’n ymuno â chast sy’n cynnwys Rhys Ifans, Aimee-Ffion Edwards a Mark Lewis Jones yn y fersiwn Gymraeg o’r ffilm wreiddiol.

Er iddo sefydlu ei fywyd yn Efrog Newydd, mae Rhys wedi dweud mai dim ond wrth ddychwelyd i Gymru y mae’n sôn am fynd adref.

Image
Sgwrs dan y Lloer
Matthew Rhys ar Sgwrs dan y Lloer 

Mae hefyd wedi sôn am drosglwyddo’r Gymraeg i’w fab ef a'r actores Keri Russell, Sam. 

Mewn cyfweliad yn 2021, dywedodd mai dim ond Cymraeg yr oedd yn ei siarad gyda’i fab. Eglurodd fod Sam yn deall popeth roedd yn ei ddweud, ond yn tueddu i ateb yn Saesneg, gan ddefnyddio ambell air Cymraeg.

Ac roedd wedi bwriadu siarad Cymraeg ar lwyfan yr Emmys wrth ennill ei wobr gyntaf yn 2018.

Mewn cyfweliad â Wales.com, eglurodd ei fod wedi bwriadu gorffen ei araith drwy ddiolch yn Gymraeg, ond wedi anghofio yng nghanol y nerfau.

Y tro hwn, daeth y geiriau: “Diolch yn fawr iawn”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.