Putin wedi dechrau trydydd rhyfel byd medd Zelensky

Zelensky yn ystod cynhadledd i'r wasg

Mae Vladimir Putin wedi dechrau trydydd rhyfel byd yn ôl Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky.

Mewn cyfweliad gyda'r BBC, dywedodd yr Arlywydd Zelensky mai'r unig ateb ydy pwysau milwrol ac economaidd dwys fel ei fod yn camu yn ôl.

"Rwy’n credu bod Putin eisoes wedi ei gychwyn [trydydd rhyfel byd]. Y cwestiwn yw faint o diriogaeth y bydd yn gallu ei chipio a sut i’w atal… Mae Rwsia eisiau gorfodi ar y byd ffordd wahanol o fyw a newid bywydau y mae pobl wedi dewis iddyn nhw eu hunain," meddai.

Mae Zelensky yn dweud mai dim ond dros dro y byddai modd bodloni Putin trwy roi 20% o ranbarth dwyreiniol Donetsk iddo, a thiroedd Kherson a Zaporizhzhia. Dyma mae Arlywydd Rwsia wedi gofyn amdano. Ond yn ôl Zelensky, mi fyddai Putin yn y pendraw eisiau mwy.

"Mae’n debyg y byddai hynny’n ei fodloni am gyfnod… mae angen saib arno… ond ar ôl iddo adfer, mae ein partneriaid Ewropeaidd yn dweud y gallai gymryd tair i bum mlynedd," meddai.

"Yn fy marn i, gallai adfer mewn cwpl o flynyddoedd. I ble y byddai’n mynd nesaf? Dydyn ni ddim yn gwybod, ond mae'n ffaith ei fod am barhau [â’r rhyfel].” 

Ennill y rhyfel 

Yn ystod y cyfweliad, mae Arlywydd Wcráin yn dweud y bydd y wlad yn ennill y rhyfel. Yn ôl Zelensky, mae angen i Wcráin wneud er mwyn atal y bygythiad byd eang sydd yn bodoli am fod Putin mewn grym.

“Rwy’n credu bod atal Putin heddiw a'i rwystro rhag meddiannu Wcráin yn fuddugoliaeth i’r byd i gyd. Oherwydd ni fydd Putin yn stopio gyda Wcráin,” meddai.

Wrth gael ei holi am rôl Arlywydd America, Donald Trump a'i ddatganiadau sydd weithiau yn gwrth-ddweud ei gilydd, mae'n dweud na fydd Trump yn arlywydd am byth.

Bydd "arweinwyr yn newid", meddai, ond mae eisiau sicrwydd am gyfnod hir.

Dywedodd hefyd nad ydy o wedi penderfynu a fydd yn sefyll mewn etholiad arall. Mae Trump wedi mynnu y dylai Zelensky gynnal etholiad cyffredinol erbyn yr haf. Roedd yr etholiadau i fod i ddigwydd yn 2024, ond doedd hynny ddim yn bosib yn ôl cyfraith filwrol a gafodd ei chyflwyno ar ôl i Rwsia feddiannu'r wlad. Mae Zelensky yn dweud y byddai yn barod i'w cynnal os byddai yna amodau yn eu lle.

"Os ydych am gynnal etholiadau... yna cynhaliwch yr etholiadau hyn yn onest. Cynhaliwch nhw mewn ffordd y bydd pobl Wcráin yn eu cydnabod, yn gyntaf oll. A rhaid i chi eich hun gydnabod mai etholiadau cyfreithlon yw’r rhain," meddai wrth y BBC. 

Llun: Tom Nicholson/PA

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.