‘Pryderon sylweddol’ am lendid a diogelwch cleifion mewn ysbyty iechyd meddwl yng Nghaerdydd

Llandochau

Mae arolygwyr wedi darganfod “pryderon sylweddol” am lendid a diogelwch cleifion mewn ysbyty iechyd meddwl arbenigol yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal arolygiad dirybudd o wasanaethau iechyd meddwl arbenigol yn Ysbyty Athrofaol Llandochau.

Nododd yr arolygiad nifer o bryderon am ddiogelwch cleifion, glendid a chyflwr amgylchedd y wardiau, yr oedd angen gweithredu ar unwaith yn eu cylch.

Roedd “pryderon sylweddol am gyflwr a glendid amgylcheddau'r wardiau,” gan gynnwys “peryglon amgylcheddol ac ardaloedd o'r wardiau a oedd mewn cyflwr gwael,” meddai'r arolygwyr.

Nododd yr arolygwyr broblemau helaeth o ran glendid, gan gynnwys llwch, malurion a staeniau yn yr ardaloedd i gleifion. 

Nid oedd y toiledau mewn rhai ardaloedd yn cael eu glanhau i safon dderbyniol ac nid oedd rhai o'r cyfleusterau ar gael i'w defnyddio am gyfnodau estynedig.

“Roedd yn siomedig nodi bod rhai o'r materion hyn wedi cael eu nodi yn ystod arolygiad blaenorol, gan godi pryderon o ran effeithiolrwydd prosesau goruchwylio a gallu'r bwrdd iechyd i wneud gwelliannau a'u cynnal,” meddai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Cafodd yr arolygiad ei gynnal dros dridiau ym mis Mawrth 2026, gan asesu ansawdd, diogelwch a phrofiad y claf ar dair ward sy'n darparu gofal arbenigol i unigolion dros 65 oed â dementia neu salwch meddwl difrifol.

Gwelodd yr arolygwyr hefyd enghreifftiau o ryngweithio tosturiol a pharchus rhwng y staff a'r cleifion, gyda gofal yn cael ei ddarparu mewn ffordd bwyllog. 

Dywedodd y cleifion wrth yr arolygwyr eu bod yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi, ac roedd gofal yn cael ei roi mewn modd amserol ac ymatebol ar y cyfan.

Dywedodd Alun Jones, Prif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru: “Yn ystod yr arolygiad hwn, gwelwyd staff ymroddedig yn darparu gofal tosturiol a pharchus o dan amgylchiadau heriol. 

“Fodd bynnag, nodwyd pryderon sylweddol am amgylchedd y wardiau a methiant i ymdrin â risgiau hysbys, yn enwedig mewn perthynas â glendid, diogelwch a phrosesau goruchwylio. 

“Er bod yr heriau sy'n gysylltiedig ag ystadau iechyd meddwl sy'n heneiddio i'w gweld ledled Cymru ac nad ydynt yn unigryw i'r gwasanaeth hwn, mae'r effaith ar gleifion yn yr achos hwn yn sylweddol."

Ychwanegodd: “Rhaid i'r bwrdd iechyd nawr ddangos gwelliannau clir a pharhaus er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael gofal mewn amgylchedd diogel a glân sy'n cael ei gynnal a'i gadw'n dda. Byddwn yn parhau i fonitro'r cynnydd yn agos.”

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd Llywodraeth Cymru mewn ymateb: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau gwasanaethau iechyd meddwl sy'n ddiogel ac yn canolbwyntio ar y person.

"Rydym yn pryderu am rai o ganfyddiadau'r adroddiad ac yn disgwyl gweld mesurau ar waith i wella'r sefyllfa. Mae'n siomedig clywed nad yw rhai materion a nodwyd mewn arolygiad blaenorol wedi'u datrys yn foddhaol eto, a byddwn yn dal y bwrdd iechyd i gyfrif.

"Mae'r bwrdd iechyd wedi cyflwyno cynllun gwella i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a bydd yn cael ei fonitro yn erbyn hynny."

Mae Newyddion S4C hefyd wedi holi Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.