Pryder am lifogydd pellach ar ffin Nepal-Tsieina wrth nifer y meirw gynyddu i 475
Mae’r awdurdodau ar ffin Nepal a Tsieina yn rhybuddio fod ‘na risg o lifogydd pellach wrth i lefel y dŵr gynyddu mewn rhai mannau, ddyddiau’n unig ers i afonydd orlifo a lladd cannoedd.
Mewn diweddariad fore Gwener, dywedodd un heddlu Nepal fod 475 o gyrff bellach wedi eu canfod, gyda bron i 1,000 o bobl yn parhau ar goll.
Yn eu plith mae dros 500 o dramorwyr, gan gynnwys degau o ddinasyddion Prydain.
Tarodd y llifogydd sydyn dinistriol ardal Rasuwa yn Nepal, sy’n ffinio â rhanbarth Tibet yn Tsieina, fore Mercher, gyda sawl afon yn gorlifo ac yn gorchuddio pentrefi â mwd brown, trwchus.
Rhybudd gorlifo pellach
Mae’r awdurdodau yn Tsieina yn dweud bod llyn wedi ffurfio ble mae afonydd Tsogyal a Purupqiangzangbu yn cwrdd a’i fod yn gorlifo’n barod.
Yn ôl Adran Adnoddau Dŵr Tsieina, mae disgwyl i’r llyn dderbyn tri miliwn metr ciwbig yn fwy o ddŵr dros y tridiau nesaf, ac y gallai fyrstio.
Dywedodd asiantaeth trychinebau naturiol Nepal fod lluniau lloeren gan Tsieina’n awgrymu fod un o’r afonydd wedi “blocio.”
Mae byddin Nepal hefyd wedi gyrru tîm i’r ffin i archwilio afon Bhotekoshi.
‘Tswnami o’r awyr’
Gyda channoedd o bobl yn parhau ar goll, mae teuluoedd yn Nepal a thramor yn parhau i ddisgwyl i glywed os yw eu hanwyliaid yn ddiogel.
Mae’r ymdrechion i achub pobl wedi cael eu llethu gan faint y dinistr. Yn ôl awdurdodau Nepal, mae dros 25 milltir o ffyrdd wedi cael eu niweidio, yn ogystal â nifer o bontydd.
Dywedodd Bishal Nath Upreti, llywydd canolfan rheoli trychinebau yn Nepal, fod y llifogydd fel “tswnami o’r awyr” a bod pentrefi cyfan wedi cael eu dinistrio.
Gyda 33 o ddinasyddion Prydain dal ar goll, mae Llywodraeth y DU wedi cynnig £5m i Nepal i help gyda’r sefyllfa.
Ymhlith y Prydeinwyr mae merch 13 oed a bachgen 14 oed. Mae’n debyg fod sawl un ar bererindod i Fynydd Kailash, safle pwysig i Hindŵiaid.