Problemau trwyddedu drylliau yn 'rhoi diogelwch y cyhoedd mewn perygl'
Mae’r system trwyddedu drylliau yng Nghymru a Lloegr yn creu “loteri cod post” ac yn peryglu diogelwch y cyhoedd, yn ôl arolygwyr.
Dywedodd Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi nad yw’r system yn gweithio fel y dylai, gyda’r gwiriadau ar ymgeiswyr a deiliaid trwyddedau yn amrywio o un ardal i’r llall.
Mae’r adroddiad yn edrych ar y system ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, gan gynnwys pedwar heddlu Cymru.
Fe wnaeth yr arolygiaeth feio “canllawiau a deddfwriaeth aneglur”, ynghyd â “goruchwyliaeth a throsolwg gwael” am y diffygion.
Mae wedi galw am sefydlu awdurdod cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru a Lloegr.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud bod "nifer o argymhellion yr adroddiad yn adlewyrchu gwaith sydd eisoes ar y gweill."
Mae bron i 500,000 o bobl yn dal tystysgrifau ar gyfer arfau tanio neu ddrylliau yng Nghymru a Lloegr.
Llofruddiaethau
Yn ystod y 10 mlynedd hyd at fis Mawrth 2025, cafodd o leiaf 39 o bobl eu llofruddio mewn digwyddiadau saethu yng Nghymru a Lloegr oedd yn cynnwys arfau tanio a oedd yn cael eu dal yn gyfreithlon, yn ôl yr arolygiaeth.
Dywedodd y dylai awdurdod newydd ddisodli’r 38 uned trwyddedu arfau tanio a ffrwydron presennol ledled Cymru a Lloegr.
Dywedodd Arolygydd Cwnstabliaeth Ei Fawrhydi Lee Freeman: “Mae’r rhan fwyaf o’r bron i 500,000 o ddeiliaid tystysgrifau yn defnyddio eu harfau tanio a’u drylliau yn gyfrifol ar gyfer gweithgareddau hamdden cyfreithlon neu fel offer hanfodol yn eu gwaith.
“Ond maen nhw’n wynebu loteri cod post o ran y gwasanaeth maen nhw’n ei gael gan unedau trwyddedu arfau tanio a ffrwydron.
“Maen nhw, a’r cyhoedd yn ehangach, yn haeddu system sy’n glir, yn gyson ac yn gadarn. Fe wnaethon ni ganfod nad yw’r system bresennol yn cynnig yr un o’r pethau hyn.
“Nid dyma’r tro cyntaf i’r arolygiaeth ac eraill godi pryderon am drwyddedu arfau tanio, ac mae hen bryd gweld newid.
“Dylid sefydlu awdurdod trwyddedu arfau tanio cenedlaethol newydd er mwyn diogelu’r cyhoedd yn well. Ni ddylai fod angen trasiedïau pellach cyn gweithredu.”
Deddf
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Gartref: “Mae gan y DU rai o’r deddfau arfau tanio llymaf yn y byd.
“Rydym wedi cymryd camau sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i gryfhau’r broses o drwyddedu arfau tanio, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau statudol cadarn ar gyfer yr heddlu, cyflwyno gwiriadau meddygol gorfodol, hyfforddiant cenedlaethol newydd ar gyfer heddluoedd a chynyddu ffioedd trwyddedu.
“Mae nifer o argymhellion yr adroddiad yn adlewyrchu gwaith sydd eisoes ar y gweill.
“Mae hyn yn cynnwys adolygiad o drefniadau trwyddedu arfau tanio sy’n cael ei gynnal fel rhan o raglen ehangach y Llywodraeth i ddiwygio’r heddlu.
“Byddwn yn cydweithio’n agos â phartneriaid ym maes plismona i ystyried yr adroddiad a chymryd unrhyw gamau pellach sydd eu hangen i gryfhau’r rheolaeth ar arfau tanio a chadw’r cyhoedd yn ddiogel.”
Anaddas
Mae ymgyrchwyr wedi dadlau o’r blaen nad yw Deddf Arfau Tanio 1968, sydd dros 50 oed, yn addas i’r diben yn sgil nifer o ddigwyddiadau saethu.
Yn Plymouth yn 2021, fe wnaeth Jake Davison, 22 oed, ladd ei fam Maxine, 51 oed, cyn saethu Sophie Martyn, tair oed, ei thad Lee, 43 oed, Stephen Washington, 59 oed, a Kate Shepherd, 66 oed.
Yna fe saethodd ei hun wrth i swyddog heddlu di-arf ei wynebu ar 12 Awst 2021.
Roedd Davison yn berchen ar y dryll yn gyfreithlon ac yn dal tystysgrif ar ei gyfer.
Roedd wedi bod ag obsesiwn ag arfau tanio ers yn ifanc, rhywbeth oedd yn cael ei ystyried yn “ddiddordeb arbennig” yn sgil ei awtistiaeth.
Fe wnaeth yr heddlu gymryd ei ddryll a’i dystysgrif oddi arno ym mis Medi 2020, wedi i luniau teledu cylch cyfyng ei ddangos yn dyrnu bachgen 16 oed hyd at naw gwaith mewn parc sglefrio.
Ond fe gawson nhw eu dychwelyd iddo dim ond pum wythnos cyn y llofruddiaethau.