Gwyddonwyr o Fangor i fesur difrod tanau gwyllt yr haf ar briddoedd
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi lansio ymgyrch wyddonol i fesur y niwed gan danau gwyllt yr haf yma i briddoedd, bioamrywiaeth ac ecosystemau’r Deyrnas Unedig.
Cofnodwyd mwy na 500 o danau ledled Prydain ym mis Gorffennaf yn unig, gan effeithio ar dir amaethyddol a gweundiroedd, rhostiroedd a glaswelltiroedd yr ucheldir.
Mae'r ardaloedd hyn yn storio carbon, rheoleiddio dŵr, lleihau'r risg o lifogydd ac yn cynnal bioamrywiaeth "gwerthfawr", meddai'r ymchwilwyr.
Mae'r cynllun newydd yn cael ei arwain gan yr Athro Davey Jones o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol Bangor, sy’n gweithio â'i gydweithwyr yr Athro Dave Chadwick, yr Athro Robert Griffiths, Dr Emily Cooledge a Dr Karina Marsden.
“Yn aml, gelwir pridd yn ecosystem anghofiedig y Deyrnas Unedig, ond mae'n gwneud llawer iawn o waith i ni o dan ein traed, gan gloi carbon i ffwrdd, hidlo ein dŵr yfed a chefnogi'r planhigion a'r anifeiliaid y mae ein tirweddau'n dibynnu arnynt,” meddai’r Athro Jones.
“Yn syth ar ôl tân, gall y pridd ddweud llawer wrthym am ba mor ddrwg y mae wedi’i effeithio.
"Ond gall rhai o'r signalau hynny newid yn gyflym yn dilyn glaw, erydiad ac adferiad llystyfiant. Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod ni’n gallu mynd i’r maes yn gyflym yn dilyn tanau gwyllt.”
Cymharu tir
Bydd y gwyddonwyr o Fangor yn cymharu tir wedi'i losgi'n uniongyrchol â thir cyfagos sydd heb ei losgi.
Mae hyn yn darparu cymhariaeth naturiol sy'n caniatáu i ymchwilwyr nodi newidiadau a achosir gan dân wrth ystyried gwahaniaethau rhwng safleoedd.
Mae lleoliadau'n cael eu nodi ledled y Deyrnas Unedig gan ddefnyddio data lloeren NASA, gan ganiatáu i'r tîm ddewis safleoedd addas yn gyflym yn dilyn tanau newydd.
Mae gwaith maes cychwynnol o safleoedd ym Mwlch Sychnant ger Conwy a'r Rhinogydd ger Harlech yn dangos graddfa bosibl yr effeithiau.
Mae'r safleoedd yn cynnwys rhostir o fewn tirweddau gwarchodedig sydd wedi'u dynodi'n Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a Gwarchodfa Natur Genedlaethol.
Ym Mwlch Sychnant, mae amcangyfrifon cynnar yn awgrymu bod y tân wedi defnyddio 12–17 tunnell o garbon yr hectar o lystyfiant.
Deunydd organig
Gwelodd ymchwilwyr hefyd golledion sylweddol o ddeunydd organig yn y pridd.
“Mae'r arsylwadau cychwynnol hyn yn rhoi cipolwg i ni ar yr hyn sydd wedi'i golli, ond dim ond rhan o'r stori yw mesur y niwed uniongyrchol," meddai’r Athro Chadwick.
“Mae angen i ni ddeall beth sy'n digwydd nesaf, pa mor gyflym y mae'r priddoedd a'r cynefinoedd hyn yn adfer, a yw rhai ecosystemau'n fwy gwydn nag eraill, ac a oes pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu adferiad."
Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn helpu rheolwyr tir, gwasanaethau tân a llunwyr polisi i ddeall canlyniadau uniongyrchol tanau gwyllt a sut mae tirweddau sydd wedi’u niweidio yn adfer.
Gallai'r canlyniadau helpu i lywio mesurau i amddiffyn cyflenwadau dŵr yfed, lleihau risgiau llifogydd ac erydiad, a diogelu cynefinoedd wrth i'r risg o danau gwyllt gynyddu ledled y Deyrnas Unedig, meddai'r gwyddonwyr.
“Drwy ddychwelyd i'r safleoedd hyn dros y ddwy flynedd nesaf, a chymharu adferiad ar draws gwahanol ecosystemau, gallwn ddeall pam mae rhai priddoedd a chynefinoedd yn adfer yn gyflymach nag eraill, ac a oes pethau y gallwn ni eu gwneud i helpu adferiad.
"Mae'n hanfodol ein bod yn adeiladu'r sylfaen dystiolaeth hon nawr, mewn ffordd gydlynol, fel ein bod wedi ein paratoi'n well ar gyfer hafau'r dyfodol,” meddai’r Athro Griffiths.