Pryder bod gwerthiant isel tocynnau rygbi Cymru'n adlewyrchu trafferthion y gamp
Mae rygbi rhyngwladol yn dychwelyd i Gaerdydd y penwythnos hwn, wrth i Gymru baratoi i wynebu Japan, Seland Newydd ac Awstralia yng Nghyfres yr Hydref.
Ond er ymdrechion yr Undeb Rygbi Cymru i ddenu cefnogwyr, mae'n ymddangos na fydd Stadiwm Principality yn agos at fod yn llawn ar gyfer rhai o'r gemau, gyda nifer sylweddol o docynnau'n parhau i fod ar werth.
Y llynedd, roedd cyfartaledd o 57,500 o gefnogwyr yn bresennol ar draws pedair gêm Cyfres yr Hydref, gyda mwy na 63,000 yn gwylio Cymru yn erbyn Seland Newydd.
Eleni, er bod rhai o dimau mwyaf y byd rygbi yn ymweld â Chaerdydd, mae disgwyl y byd llawer o seddi'n wag.
Image
Steffan Leonard gyda Steffan ab Ieuan a Tomos Axford
Mae hynny wedi codi cwestiynau ynghylch a yw ansicrwydd parhaus dros ddyfodol rygbi Cymru yn effeithio ar frwdfrydedd cefnogwyr gan gynnwys myfyrwyr sy'n medru cipio tocyn am £10.
Yn ôl Steffan ab Ieuan, sy'n chwarae rygbi yng Nghaerdydd nid yw'r Undeb wedi llwyddo i ddenu sylw pobl fel fo.
"Dw i ddim yn mynd. Mae pethau gwell i'w gwneud. A dweud y gwir, mae rhai o'r tocynnau rhataf mewn mannau lle mae hi'n anodd gweld y gêm. Ti'n well bant yn y dafarn."
Mae ei gyd-fyfyriwr a chefnogwr brwd o'r Scarlets, Tomos Axford yn gosod y bai ar Undeb Rygbi Cymru:
"Dw i'n credu bod yr undeb wedi gadael pobl lawr. Fi'n cefnogi'r Scarlets, ac mae'r sôn am dorri rhanbarthau wedi gwneud pobl yn flin. Mae lot o bobl wedi'u siomi.
"Mae angen trefnu pethau. Mae'r problemau'n effeithio ar bopeth lawr i'r tîm cenedlaethol. Nid bai'r chwaraewyr yw e, maen nhw hefyd yn cael eu gadael lawr."
Er bod rhai tocynnau ar gael am gyn lleied â £10, nid yw hynny'n ddigon i ddenu pawb yn ôl i'r stadiwm.
Image
Gareth Rhys Owen
'Rygbi Cymru ddim yn secsi'
Yn ôl y darlledwr rygbi Gareth Rhys Owen, mae'r sefyllfa bresennol yn peri pryder: "Mae nifer ohonom sy'n dilyn y gêm yn poeni.
"Hyd yn oed os byddan nhw'n llenwi'r stadiwm ar gyfer y gemau hyn, bydd hynny o bosib oherwydd bod prisiau tocynnau wedi'u gostwng. Mae hynny'n golygu llai o incwm. Ar hyn o bryd, dydy rygbi Cymru ddim yn secsi."
Mae'r tensiynau parhaus rhwng yr undeb a'r rhanbarthau yn cyfrannu at yr ansicrwydd, meddai.
"Mae gennym system lle mae rhyw fath o ryfel cartref wythnosol rhwng y rhanbarthau a'r undeb. Mae hynny'n ychwanegu at yr ansicrwydd a'r ansefydlogrwydd.
"Yn y pen draw, y tîm cenedlaethol sy'n dioddef. Nid yw rygbi Cymru yn secsi. "
Yn ôl Undeb Rygbi Cymru mae mwy na 240 o glybiau wedi prynu tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Japan, gyda £2 o bob tocyn yn mynd yn ôl i'r clybiau hynny.
Dywedodd yr undeb hefyd fod yr ardal deuluol yn haen isaf Stadiwm Principality wedi gwerthu allan ar gyfer y gêm honno.
Bydd y tair wythnos nesaf yn gyfnod pwysig i dîm Cymru ar y cae.
Ond efallai y bydd nifer y cefnogwyr sy'n mynd i wylio yn rhoi arwydd clir o'r teimladau ehangach sydd ymhlith cefnogwyr am gyflwr rygbi Cymru ar hyn o bryd.