Prinder bwyd yn y tymor hir yn 'anorfod' yn sgil sychder medd amaethwyr
Prinder bwyd yn y tymor hir yn 'anorfod' yn sgil sychder medd amaethwyr
Mae dirprwy lywydd un undeb amaeth yng Nghymru wedi rhybuddio fod prinder cynnyrch bwyd yn 'anorfod' yn sgil y sychder dros y misoedd diwethaf.
Fe wnaeth Cymru gofnodi'r mis Gorffennaf sychaf ar gofnod eleni, tra bod y tymheredd cyfartalog wedi cyfateb i’r record a gofnodwyd yn 1983 a 2006.
Mae tanau gwyllt wedi’u gweld ledled y wlad hefyd, gyda gwasanaethau tân yn parhau i frwydro yn erbyn sawl un ar y funud.
Yn ôl gwaith dadansoddi newydd, mae awgrym bod y gwanwyn a’r haf poeth a sych wedi lleihau cynhaeaf grawnfwydydd a hadau olew o 2.5 miliwn o dunelli.
Byddai hynny’n costio tua £390 miliwn i ffermwyr y Deyrnas Unedig.
Mae Paul Williams yn Ddirprwy Lywydd NFU Cymru ac yn ffermio yn Nyffryn Conwy.
Wrth siarad ar Faes Sioe Môn ddydd Mercher, fe ddywedodd wrth Newyddion S4C: "Adre, ‘dan ni’n digwydd ffarmio yn yr ucheldir yn un o ardaloedd gwlypa Prydain yn y gaeaf wrth gwrs, ag eto dwi’n cario dŵr i’r gwartheg ers pump wythnos a rŵan bellach yn cario dŵr i’r tŷ ers pythefnos.
"Mae o’n sicr yn cael effaith arna ni yn y topie ‘cw, a mae o’n cael effaith enbyd ar lawer iawn o ffermydd sydd llawer iawn is yn y dyffryn, Dyffryn Clwyd, a mewn mannau eraill yng Nghymru."
Rhybuddiodd Mr Williams y gallai'r sychder arwain at brinder cynnyrch bwyd.
"Mae o'n anorfod fydd 'na brinder, 'dan ni'n gwybod er enghraifft bod cynhyrchiad llaeth i lawr yn sylweddol, mae cynhyrchiant wyau, ieir, llawer iawn llai a does 'na ddim dwywaith, mae o'n mynd i gael effaith ar gynhyrchiant grawn," meddai.
"Dim gymaint rŵan ond yn sicr ma’ hwn yn mynd i gael effaith hirdymor at flwyddyn nesa’ a blynyddoedd i ddod oherwydd ma’ be’ ‘dan ni’n gynhyrchu heddiw ‘ma wrth gwrs yn debygol o fod ar y silffoedd mewn dau, dri neu bedwar mis neu bellach na hynny.
"Felly does ‘na ddim dwy waith mae’n mynd i gael effaith ar gynnyrch ac allbwn amaeth."
Mae Gareth Jones yn ffermwr godro ar Ynys Môn, ac fe ddywedodd wrth Newyddion S4C mai ei flaenoriaeth ef ar hyn o bryd ydy sicrhau fod yna fwyd ar gael i'w wartheg.
"'Dan ni'n lwcus yn ein sefyllfa ni bo' ni 'di gallu gwerthu rhywfaint o wartheg tew i dynnu pressure oddi ar y borfa ond hyn a hyn o dir ma' hynny yn rhyddhau," meddai.
"Mae o’n codi pryder a ma’ rywun yn sbio ar y forecast bob dydd yn meddwl ‘W, ma’r glaw ma’n dŵad’ a wedyn ma’n mynd yn bellach bob dydd."
Ychwanegodd Mr Jones y bydd y gwir effaith i'w deimlo yn y gaeaf.
"‘Dan ni’n meddwl mai problem rŵan ‘dio, ma’ siwr mai problem i’r gaeaf fydd o fel fydd y storfa seilej gan bobl yn mynd yn llai, bwyd i’r gaeaf ‘di hwnnw i fod ond ‘dan ni’n byta fewn idda fo rŵan," meddai.
"Dydi o ddim yn fater o jyst ‘O nai ffonio’r dyn gwerthu gwair a gofyn am lwyth o wair’ ‘chos di’r llwythi gwair ‘na ddim am fod yna - ma’ ‘na ffermydd yn bob rhan o’r wlad isio porfa ychwanegol wedyn ma hyn yn mynd i fod yn broblem hirdymor iawn swn i’n ddeud."
Addasu arferion
Mae angen i ffermwyr addasu eu harferion wrth fynd i'r afael ag effeithiau sychder yn ôl Mr Jones.
"Ma’ lot o ffarmwrs ‘di bod bach yn ddrwgdybus o ydi newid hinsawdd yn beth sy’n digwydd neu beidio ond dwi‘n meddwl ma’ raid i ni gyfadda ma’ raid i ni sbio go iawn ar y blynyddoedd dwytha’ ‘ma, a sylwi ma’r tymhorau ‘ma’n mynd yn sychach a ma’ raid i ni neud rwbath."
Ychwanegodd Paul Williams: "Be' ma'r arbenigwyr yn ddeud wrtha ni ydi fydd rhaid i ni ddod i arfer fwy efo'r math yma o dywydd.
"Ma’ rhaid i ni fel amaeth nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd fod yn barod i addasu i hyn, mi fedrwn ni addasu mewn llawer iawn o feysydd ond er mwyn i ni allu addasu, ma’ rhaid i ni gael y gallu i neud.
"Ma’ ‘na lawer iawn o bethe ma’ raid i ni edrych fewn i hyn, lot o bethe fedrwn ni neud o fewn y diwydiant, ond ma’ gen i ofn bo’ ‘na lot fawr o bethe ma’ rhaid i ni gael llywodraethau yma yng Nghymru ac wrth gwrs ym Mhrydain Fawr i ail-edrych ar hwn i strwythuro fo fel fedrwn ni neud hyn yn llawer rhwyddach."
Fe ddywedodd Dai Miles, Dirprwy Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, fod angen i ffermwyr gael eu dysgu am y ffyrdd i fynd i'r afael â sychder.
"Ni'n gorfod bwydo gwartheg fel pe tai'n gaeaf, wrth gwrs, does dim byd ar y caeau iddyn nhw fwyta felly dechre bwydo silwair yn barod a ma' rhai wedi bod wrthi ers dechre Gorffennaf," meddai.
"Ma’ ‘na le i gael cefnogaeth gan y Llywodraeth yn enwedig yn y gwaith ymchwil ac unwaith chi ‘di gwneud y gwaith ymchwil, addasu hwnna i roi ar y ffermydd ac i ddysgu ffermydd i neud y pethe Newydd.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cydnabod y pwysau ar ffermwyr a thyfwyr yn ystod yr amodau tywydd sych hir hyn, gan gynnwys effeithiau ar dda byw, cnydau, a busnesau fferm.
“Mae'r llywodraeth newydd hon yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol. Rydym wedi gwneud gweithredu ar yr hinsawdd a natur yn gyfrifoldeb ar lefel y Cabinet sy'n ymestyn ar draws pob portffolio, gan adlewyrchu maint yr her a'r camau sydd eu hangen."