'Realiti newydd': Dros 1000 o danau gwyllt yng Nghymru a Lloegr hyd yma eleni

Colin Lyness
Tan Mawr ar fynydd Conwy

Mae ffigurau newydd yn awgrymu bod Cymru a Lloegr wedi dioddef cymaint o danau gwyllt hyd yma yn 2026 ag a gafwyd yn ystod y flwyddyn gyfan y llynedd.

Caiff y ffigyrau eu cyhoeddi wrth i'r Prif Weinidog Andy Burnham baratoi i gynnal cyfarfod brys i drafod y tywydd eithafol sydd yn effeithio ar y wlad.

Mae tua 1,017 o danau gwyllt wedi'u cofnodi yng Nghymru a Lloegr eleni, yn ôl data gan Gyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân - yr un nifer â chyfanswm y llynedd.

Mae Andy Burnham yn paratoi i gadeirio cyfarfod brys o bwyllgor Cobra yn ddiweddarach ddydd Mercher, mewn ymateb i gyfnod hir o dywydd poeth a sych eithriadol.

Gwahardd barbeciws tafladwy

Dywedodd y Prif Weinidog ddydd Mercher y byddai'n ystyried gwahardd barbeciws tafladwy oherwydd y risg o ragor o danau gwyllt.

Yn ôl data Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, mae ffigurau eleni hefyd yn uwch na nifer y tanau gwyllt a gafwyd dros yr un cyfnod yn 2025.

Rhwng 1 Ionawr a 12 Awst y llynedd, cofnodwyd 869 o danau gwyllt, yn y flwyddyn waethaf ar gofnod ar y pryd.

Yn yr un cyfnod yn 2022 - sef blwyddyn oedd hefyd ymysg y gwaethaf o ran tanau gwyllt - roedd y nifer yn 843.

Dywedodd cadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân, Phil Garrigan, wrth asiantaeth newyddion PA: “Mae’r rhan fwyaf o danau gwyllt yn y DU yn cael eu hachosi oherwydd ymddygiadau dynol, gweithredoedd diofal, damweiniol neu fwriadol yn anffodus.

“Ond wrth i newid hinsawdd ddod â chyfnodau amlach o dywydd poeth a sych, mae’r amodau ar gyfer tanau gwyllt yn dod yn fwy peryglus, gan gynyddu eu graddfa a’u dwyster.

“Mae tywydd poeth a sychder yn troi rhannau o’r DU yn dirweddau tanwydd, gan ganiatáu i danau ledaenu’n gyflymach, llosgi’n hirach a rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau tân ac achub.

“Mae tanau gwyllt yn dod yn rhan o’n realiti newydd ac mae angen i ni fod yn onest am yr achosion a’r amodau sy’n eu gyrru."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.