Y wlad yn paratoi am ddiffyg trawiadol ar yr haul
Mae pobl o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn paratoi ar gyfer diffyg ar yr haul nos Fercher.
Bydd yr amseroedd pan fydd yr eclips yn ymddangos yn amrywio ychydig ar draws Cymru.
Yng Nghaerdydd, bydd yn dechrau tua 18.17, yn cyrraedd ei uchafbwynt am 19.12, ac yn dod i ben am 20.06.
Dyma fydd y tro cyntaf ers 1999 i gymaint o’r haul gael ei guddio o’r DU ac Iwerddon.
Drwy gydol y dydd mae siopau sydd yn gwerthu sbectols arbennig sydd yn galluogi pobl i wylio'r diffyg wedi bod yn hynod o brysur.
Pobl sydd yn byw ar yr Ynys Werdd, Gwlad yr Iâ, Sbaen a rhan fechan o Bortiwgal fydd y cyntaf i weld y digwyddiad hanesyddol.
Yr Alban fydd y wlad gyntaf ym Mhrydain i weld effaith yr eclips, a hynny am 18.08.
Mae arbenigwyr yn rhybuddio pobl i beidio ag edrych yn uniongyrchol ar yr haul, hyd yn oed pan fydd y rhan fwyaf ohono wedi’i guddio neu pan fydd cymylau yn yr awyr.
“Peidiwch â syllu ar yr haul â’ch llygaid noeth, a pheidiwch byth ag edrych ar yr haul drwy finocwlars neu delesgop,” meddai’r Athro Huw Morgan, o Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth.
“Gall hynny achosi niwed mawr parhaol i’r llygaid.”
Dylai pobl ddefnyddio sbectol eclips sy’n cyrraedd safon ddiogelwch ISO 12312-2. Nid yw sbectol haul arferol yn cynnig digon o amddiffyniad.
Mae hefyd yn bosib gwylio’r eclips yn anuniongyrchol drwy ddefnyddio taflunydd twll pin i daflunio delwedd o’r haul ar arwyneb.
Prif lun: PA