Y Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn cyhoeddi amserlen ei ymddiswyddiad

Y Prif Weinidog Syr Keir Starmer yn cyhoeddi amserlen ei ymddiswyddiad

Mae Syr Keir Starmer wedi cyhoeddi amserlen ar gyfer rhoi'r gorau i'w swydd fel Prif Weinidog y DU.

Daeth ei gyhoeddiad hanesyddol y tu allan i Downing Street fore dydd Llun yn dilyn dyddiau o ddyfalu am ei ddyfodol.

Roedd wedi wynebu pwysau cynyddol gan ASau Llafur oedd eisiau iddo ymddiswyddo, neu nodi amserlen ar gyfer gadael ei swydd.

Wrth siarad y tu allan i Downing Street, dywedodd Syr Keir: "Y cwestiwn mae fy mhlaid yn ei ofyn bellach yw os mai fi yw'r person gorau i'n harwain ni i'r etholiad cyffredinol nesaf. 

"Dwi wedi clywed ateb fy mhlaid wleidyddol i'r cwestiwn yna, a dwi'n ei dderbyn.

"Mae pob penderfyniad rydw i wedi’i wneud wedi bod ynglŷn â rhoi’r wlad rydw i’n ei charu yn gyntaf.

"Dyna pam y byddaf i yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Lafur."

Dywedodd Syr Keir ei fod wedi siarad â'r Brenin fore Llun i roi gwybod iddo am ei benderfyniad i ymddiswyddo. 

Amserlen

Ychwanegodd ei fod wedi gofyn i Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur i osod amserlen ar gyfer enwebiadau ar gyfer yr arweinyddiaeth ar 9 Gorffennaf, a'i chwblhau erbyn gwyliau'r haf.

Bydd hyn yn golygu y byddai arweinydd newydd wedi ei benodi cyn y bydd y Senedd yn dychwelyd ym mis Medi. 

Dywedodd Syr Keir y byddai'n parhau yn brif weinidog tan hynny. 

Roedd Syr Keir yn emosiynol hefyd wrth ddiolch i'w wraig Victoria am ei chefnogaeth ar ddiwedd ei araith. 

Dywedodd y bydd yn treulio mwy i amser yn bod y "gŵr a'r tad gorau" ar ôl ei ymddiswyddiad. 

Image
Keir Starmer
Syr Keir Starmer yn annerch cynhadledd ei blaid yn 2024 (Llun: PA)

Diolchodd Andy Burnham i Syr Keir Starmer am ei arweinyddiaeth a dywedodd fod y wlad bellach yn disgwyl “sefydlogrwydd” a “difrifoldeb”.

Wrth gyhoeddi neges ar X, dywedodd: “Mae Keir wedi rhoi gwasanaeth enfawr i’n gwlad ac rwyf am ddiolch iddo am ei arweinyddiaeth a’i ymroddiad yn ystod cyfnod mor heriol.

“Mae ei benderfyniad yn nodi dechrau cyfnod pontio ac mae’n bwysig bod y broses hon yn cael ei chynnal mewn ffordd drefnus a chyfrifol. Byddaf yn cynnig fy hun fel rhan o’r broses hon.

“Mae’r wlad yn disgwyl sefydlogrwydd, difrifoldeb a ffocws parhaus ar y materion pwysicaf a dyna fydd yn ei chael.

“Wrth i ni symud ymlaen, rhaid i’n blaenoriaeth fod yn gweithio gyda’n gilydd i gael y wlad yn ôl i ble rydym i gyd eisiau iddi fod. Mae pobl eisiau gweld cynnydd ar dwf economaidd, costau byw, gwasanaethau cyhoeddus, tai a chyfleoedd i’r genhedlaeth nesaf. Ni ddylai newid gwleidyddol byth dynnu sylw oddi wrth y cyfrifoldeb i wella bywydau pobl.

Ychwanegodd: “Mae mudiad y Blaid Lafur wedi bod ar ei gryfaf erioed pan mae’n edrych ymlaen yn hyderus ac yn bwrpasol. Dyma beth fyddwn ni’n ei wneud o hyn ymlaen a byddwn ni’n sicrhau bod y newid hwn yn broses gadarnhaol o adnewyddu i’n plaid a’n gwlad.”

Canlyniadau siomedig

Roedd wedi bod dan bwysau ers yr etholiadau ym mis Mai pan ddaeth Llafur yn drydydd yn etholiad Senedd Cymru a cholli grym am y tro cyntaf erioed yn hanes datganoli, yn ogystal â chanlyniadau gwael mewn etholiadau lleol ar draws Lloegr a'r Alban.

Fe gynyddodd y pwysau yn dilyn buddugoliaeth gyfforddus cyn-faer Manceinion, Andy Burnham yn isetholiad Makerfield ddydd Iau diwethaf. 

Image
Starmer
Y prif weinidog a'i wraig Victoria Starmer yn cyrraedd Rhif 10 Downing Street am y tro cyntaf yn dilyn buddugoliaeth etholiadol Llafur yn 2024 (Llun: PA)

Daeth Syr Keir Starmer yn Brif Weinidog ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl arwain Llafur i fuddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad cyffredinol. 

Fe olygodd hynny fod cyfnod o 14 mlynedd o lywodraethu’r Ceidwadwyr wedi dod i ben.

Enillodd Llafur 411 o seddi, gan roi mwyafrif sylweddol iddo yn Nhŷ’r Cyffredin. Keir Starmer oedd y prif weinidog Llafur cyntaf ers Gordon Brown.

Cafodd ei ethol yn AS dros Holborn and St Pancras yn 2015. Daeth yn arweinydd Llafur ym mis Ebrill 2020, gan olynu Jeremy Corbyn ar ôl i’r blaid golli etholiad cyffredinol 2019.

Cyn cael ei ethol i’r Senedd roedd yn fargyfreithiwr. 

Cafodd ei benodi’n Gwnsler y Brenin yn 2002 a gwasanaethodd fel Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus rhwng 2008 a 2013.

Prif lun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.