Pride Berlin: Menyw wedi marw ar ô i gerbyd yrru i mewn i dorf

Heddlu yn Berlin

Mae menyw wedi marw ac o leiaf 29 o bobl wedi’u hanafu ar ôl i gerbyd yrru i mewn i dorf ger dathliadau Pride Berlin.

Digwyddodd hynny ym Mharc Tiergarten, ger Porth Brandenburg, ychydig cyn 22:00 nos Sadwrn.

Fe darodd y cerbyd gwyn goeden cyn i’r sawl oedd yn ei yrru ffoi o’r safle.

Cafodd wyth person eu hanafu'n ddifrifol ac mae tri ohonyn nhw mewn cyflwr sydd yn peryglu eu bywydau.

Ymgyrch chwilio

Mae’r heddlu ac erlynwyr yn chwilio am ddyn 21 oed, o'r enw Abdul B.

Mae llun ohono wedi’i gyhoeddi ac mae’r cyhoedd wedi cael rhybudd i beidio â mynd ato gan y gallai fod ag arf ac yn beryglus.

Dywedodd yr heddlu fod gan y dyn gysylltiadau ag Islamiaeth eithafol, ond nad yw'r cymhelliad wedi’i gadarnhau.

Daeth digwyddiadau Christopher Street Day, gan gynnwys cyngerdd, i ben yn gynnar.

Roedd cannoedd o filoedd o bobl wedi ymgynnull yn y ddinas ar gyfer un o ddathliadau Pride mwyaf Ewrop.

Dywedodd Canghellor yr Almaen, Friedrich Merz, fod yr hyn ddigwyddodd yn weithred erchyll ac addawodd ymchwiliad llawn.

Dywedodd Maer Berlin, Kai Wegner, mai ymosodiad oedd hwn ar gymdeithas rydd ac agored y ddinas.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.