Prestatyn: Dynes 'dal yn fyw' pan ddechreuodd tân mewn fan losgi
Roedd dynes a gafodd ei chanfod wedi marw mewn fan oedd wedi ei losgi ym Mhrestatyn ddydd Sul 'dal yn fyw' pan ddechreuodd y tân losgi, mae llys wedi clywed.
Fe wnaeth Thomas Bell, 38 oed o Ffordd Wellington, Y Rhyl, ymddangos yn y llys wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth wedi i gorff dynes gael ei ganfod mewn fan oedd wedi bod ar dân ar Lôn Gas Works, Prestatyn nos Sul.
Nid yw’r corff wedi ei adnabod yn ffurfiol eto.
Ond mewn gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Gwener, dywedodd y Barnwr Geraint Walters fod gan yr heddlu “syniad da” o enw’r dioddefwr.
Ychwanegodd eu bod ar ddeall fod y ddynes 'dal yn fyw' pan ddechreuodd y tân losgi.
Dywedodd Simon Killeen, yn amddiffyn Bell, ei fod yn gwadu cyfrifoldeb.
Mae Bell wedi ei gadw yn nalfa Carchar y Berwyn.
Fe fydd yn ymddangos yn y llys ar 27 Tachwedd er mwyn rhoi ple ac er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer yr achos.
Cafodd dyddiad arfaethedig o 5 Ebrill 2027 ei roi ar gyfer dechrau’r achos.
Mewn datganiad ddydd Iau, dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Zoie Dunkerley fod ymholiadau'r heddlu yn parhau.
"Mae ein hymchwiliad yn parhau, ac rydym yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth ac sydd heb siarad gyda'r heddlu eto i gysylltu gyda ni," meddai.