Positifrwydd Pinc: Merched y Wawr wedi codi dros £107,000 i Ymchwil Canser Cymru
Mae aelodau Merched y Wawr wedi codi dros £107,000 i Ymchwil Canser Cymru mewn 14 mis fel rhan o ymgyrch 'Positifrwydd Pinc'.
Cyhoeddwyd bod cyfanswm o £107,241.65 wedi'i gasglu yn ystod cyfarfod Pwyllgor Rhyngranbarthol Merched y Wawr yn Aberystwyth ddydd Sadwrn.
Mae'r ymgyrch yn rhan o Brosiect y Llywydd, Bethan Picton-Davies, a bydd y gwaith codi arian yn parhau tan ddiwedd Awst 2027, pan fydd y mudiad yn dathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.
Mae gan yr achos arwyddocâd personol i Ms Picton-Davies, sydd wedi gweld sawl aelod o'i theulu yn dioddef o ganser.
Bu farw ei nai, Aled, o'r clefyd yn 19 oed y llynedd.
Mae hi hefyd yn fodryb i'r cyflwynydd Mari Grug, sy'n byw gyda chanser metastatig ac yn llysgennad i Ymchwil Canser Cymru.
Dywedodd Bethan Picton-Davies: "Ar lefel bersonol mae hon wedi bod yn daith arbennig ac emosiynol i mi, yn llawn cyfleoedd ac atgofion gwerthfawr.
"Mae cyflawni'r garreg filltir anhygoel o godi £100,000 tuag Ymchwil Canser Cymru yn mynd i aros gyda fi am byth, ac yn destun balchder enfawr i fi fel Llywydd Cenedlaethol."
'Positifrwydd Pinc'
Mae aelodau a changhennau Merched y Wawr ledled Cymru wedi cynnal amrywiaeth o weithgareddau i godi arian, gan gynnwys heriau rhedeg a digwyddiadau cymunedol.
Ymysg y rheiny oedd Shan Ashton a Marnel Pritchard, a gymerodd ran yn her redeg SheUltra.
Mae ffrogiau wedi'u gwneud o flodau pinc gan aelodau hefyd wedi teithio o amgylch Cymru, gan ymddangos yn y Sioe Fawr, yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Derbyniodd yr ymgyrch gyfraniad o £21,000 hefyd er cof am gyn-Lywydd Merched y Wawr, Jill Lewis, gan Eurfyl a'r teulu.
Bydd Bethan Picton-Davies yn cyflwyno llyfr o'r enw Positifrwydd Pinc - Cymru drwy lygaid Merched y Wawr er cof am ei nai, Aled, yn ddiweddarach eleni.
Bydd y llyfr yn cael ei lansio gan Wasg Carreg Gwalch yn y Ffair Aeaf ar 30 Tachwedd.
Dywedodd Tegwen Morris, Cyfarwyddwraig Genedlaethol Merched y Wawr: "Mae ymateb anhygoel wedi bod i’r ymgyrch 'Positifrwydd Pinc' a mae pawb a stori bersonol i’w rannu."
Wrth ddiolch i'r mudiad am ei gefnogaeth, dywedodd Iwan Roberts, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata Ymchwil Canser Cymru:
“Nod Ymchwil Canser Cymru ydi uno pobl Cymru yn erbyn canser trwy ariannu gwaith ymchwil canser o safon fyd-eang, ac yn sicr – gyda Merched y Wawr yn ein cefnogi, mi rydym ni gam agosach at gyflawni hynny.”
