Porthmadog: Plismon i wynebu gwrandawiad camymddygiad yn dilyn digwyddiad mewn gardd yn 2023
Fe fydd swyddog Heddlu Gogledd Cymru yn wynebu cyhuddiad o gamymddygiad difrifol mewn gwrandawiad ddydd Llun yn dilyn digwyddiad mewn gardd ym Mhorthmadog yn 2023.
Cafodd PC Richard Williams ei gael yn ddieuog o achosi niwed corfforol gwirioneddol a thagu bwriadol y llynedd yn dilyn ymgais i arestio dyn mewn cartref ar ystâd Pensyflog ar 10 Mai 2023.
Daeth dyfarniad y rheithgor yn dilyn achos saith diwrnod yn Llys y Goron Caernarfon fis Mai'r llynedd.
Mae Cwntasbl Williams nawr yn wynebu cyhuddiad o ddefnydd “anaddas, anghymesur ac afresymol o rym” mewn gwrandawiad camymddygiad ym mhencadlys y llu ym Mae Colwyn.
Mae PC Williams wedi’i gyhuddo o dorri’r Safonau o Ymddygiad Proffesiynol sydd yn ymwneud â defnydd o rym, awdurdod, parch a chwrteisi ac ymddygiad anfriol.
Mae’r awdurdodau perthnasol wedi asesu’r cyhuddiadau a phenderfynu eu bod yn cyrraedd y trothwy o gamymddygiad difrifol.
Bydd y gwrandawiad yn dechrau am 10:30 ddydd Llun 14 Medi.
Llun: PC Richard Williams y tu allan i Lys y Goron, Caernarfon yn ystod yr achos yn 2025.
