'Posibilrwydd go iawn' mai trên Boris Johnson oedd targed ymosodiad drôn yn Wcráin
Mae’n bosib mai trên oedd yn cludo cyn-Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, oedd targed ymosodiad drôn mewn gorsaf yn Wcráin.
Dyna mae gweithredwr rheilffyrdd y wlad wedi’i ddweud.
Fe darodd drôn o Rwsia drên yng ngorsaf Yahodyn, sydd ar y ffin â Gwlad Pwyl. Digwyddodd hyn ychydig ar ôl i drên oedd yn cludo Boris Johnson a swyddogion Ewropeaidd eraill deithio ar hyd yr un llwybr.
Roedd Johnson yn dychwelyd o gynhadledd yn Kyiv gyda chynghorwyr diogelwch cenedlaethol Ewropeaidd.
Yn ôl y gweithredwr rheilffyrdd Ukrzaliznytsia, mae’n “bosibilrwydd go iawn” mai’r bwriad oedd i’r drôn daro’r trên yr oedd Johnson yn teithio arno.
Roedd y trên wedi cychwyn yn gynharach na’r disgwyl “oherwydd addasiadau amser real i amserlenni trenau, sy’n angenrheidiol oherwydd y bygythiad cyson o ymosodiadau gan Rwsia,” meddai’r cwmni.
Ychwanegodd fod cyn-gyfarwyddwr y CIA, David Petraeus, wedi bod ar drên arall a oedd yn dal yn yr orsaf pan darodd y drôn.
Does dim anafiadau wedi cael eu cofnodi.
Ar ôl yr ymosodiad, fe wnaeth Johnson ganmol teithwyr a staff Ukrzaliznytsia.
“Dwi ddim yn gwybod pa resymeg wyrdroëdig wnaeth yrru (Arlywydd Rwsia, Vladimir) Putin i ymosod ar locomotif Wcreinaidd oedd yn sefyll yn llonydd ar y ffin â Gwlad Pwyl y bore yma," meddai.
“Yr hyn y gallwn ei ddweud yn sicr yw mai dyma’r math o ymosodiad ar hap a disynnwyr y mae pobl Wcráin yn ei ddioddef bob dydd – hyd yn oed ar reilffyrdd sifil.”
Ychwanegodd fod angen mwy o gefnogaeth ar Wcráin.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn, Wes Streeting, fod yr hyn a ddigwyddodd “yn ein hatgoffa’n gryf o’r ymosodiadau y mae pobl Wcráin yn eu hwynebu bob dydd".
“Mae ymosodiadau peryglus a di-hid ar seilwaith sifil mor agos at Wlad Pwyl hefyd yn tanlinellu’r bygythiad ehangach y mae Rwsia yn ei beri i ddiogelwch," meddai.
“Mae’r DU yn parhau i sefyll yn gadarn gyda Wcráin a bydd yn parhau i weithio gyda chynghreiriaid a phartneriaid i gryfhau diogelwch Ewrop.”
Llun: James Manning/PA
