Pobl y Swistir yn gwrthod cynnig i gyfyngu ar faint y boblogaeth i 10 miliwn

Pleidlais y Swistir

Mae pobl y Swistir wedi pleidleisio yn erbyn cynnig i gyfyngu ar faint poblogaeth y wlad i 10 miliwn erbyn 2050.

Mewn refferendwm sydd wedi ei chymharu gyda phleidlais Brexit ym Mhrydain, mae'n ymddangos bod yn agos at 55% wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig, gyda 45% o bobl yn ei gefnogi, er nad yw'r holl bleidleisiau wedi eu cyfrif eto.

Petai'r refferendwm wedi ei chefnogi, fe fyddai'r wlad wedi gorfod cyfyngu ar fewnfudo, gan fynd yn groes i bolisïau'r Undeb Ewropeaidd.

Roedd llywodraeth y wlad yn erbyn y cynnig.

Plaid asgell dde Plaid y Bobl oedd wedi cefnogi cynnal y refferendwm, gan ddadlau fod twf ym mhoblogaeth y wlad wedi cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf.

Ers 2002 mae'r boblogaeth wedi tyfu o 7.3 miliwn i 9.1 miliwn. Nid yw 27% o'r boblogaeth yn ddinasyddion y Swistir.

Roedd busnesau a chyflogwyr yn y wlad yn pryderu y byddai pasio'r cynnig yn cyfyngu ar y farchnad lafur.

Mae busnesau lletygarwch a gwasanaeth iechyd y wlad yn ddibynol iawn ar weithwyr sydd wedi symud i fyw i'r Swistir yn y blynyddoedd diwethaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.