'Pob babi yn haeddu cyfle i fyw': Mam yn galw am sefydlu lle diogel i drosglwyddo babanod mewn argyfwng

Lowri Hughes

Mae mam ifanc o ardal Caernarfon yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu man diogel a chyfrinachol i rieni mewn argyfwng drosglwyddo eu baban os nad ydyn nhw’n teimlo eu bod yn gallu gofalu amdano.

Fe gyflwynodd Lowri Hughes, sy’n 28 oed ac yn fam i’w merch fach Enlli, ddeiseb i’r Senedd yn gofyn am gyfleuster neu le diogel i rieni fynd â'u babanod newydd-anedig ar frys, gyda chefnogaeth briodol i'r rhiant ar gael pe bai ei angen.

Daw hynny wedi iddi glywed am gorff y baban gafodd ei ddarganfod ar lan y Fenai ym Mangor ym mis Medi.

Dywedodd Lowri fod pobl yn “rhy gyflym i farnu mamau” heb wybod be sy’n mynd ymlaen yn eu bywydau, a bod angen sefydlu “opsiwn diogel i ferched mewn sefyllfa nad ydyn nhw’n teimlo eu bod yn gallu gofalu am eu babi."

Mae'r ddeiseb yn dadlau gall rhai rhieni "deimlo eu bod ar ben eu tennyn" ac "na allant ofalu am eu babanod newydd-anedig."

Nodir bod "blychau a gwasanaethau noddfa eisoes yn bodoli mewn rhannau o'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill" ac y "dylai Cymru ymchwilio i'r modelau hyn ar frys ac ystyried a ellid cyflwyno system debyg yma."

Noddfa ym mhob talaith

Yn y Deyrnas Unedig, dydy'r gyfraith ddim yn caniatáu i rieni adael eu babi mewn blwch ddiogel. 

O dan Adran 27 o Ddeddf Troseddau yn Erbyn y Person 1861 (Offences Against the Person Act 1861), mae gadael neu esgeuluso plentyn o dan ddwy oed yn anghyfreithlon ac yn drosedd y gellir ei chosbi â hyd at bum mlynedd o garchar. 

Mae Deddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (Children and Young Persons Act 1933) hefyd yn gwneud creulondeb ac esgeulustod tuag at blant yn droseddau.

Image
Noddfa yn San Francisco
Mae noddfeydd i adael babanod yn gyffredin yn yr Unol Daleithiau - fel hon yn San Francisco, Califfornia. Llun: Alexander Klink, CC BY 4.0, Wikimedia Commons

Draw yn yr Unol Daleithiau, ar y llaw arall, mae gan bob talaith flwch diogel i rieni drosglwyddo babanod newydd-anedig, sydd heb eu niweidio, yn ddiogel ac yn ddi-enw i'r awdurdodau dynodedig.

O dan gyfraith y Safe Haven, does dim angen i'r rhieni ryngweithio wyneb yn wyneb ag arbenigwyr - yn hytrach, maen nhw'n gallu agor drws y bwlch, a gosod y baban mewn crud sydd â'i dymheredd wedi'i reoli.

Pan fydd drws y blwch yn cau mae'n cloi'n awtomatig o'r tu allan, gan sbarduno larwm tawel i rybuddio aelodau o staff bod baban wedi'i osod yn y blwch.

Mae staff meddygol yn casglu’r baban drwy ddrws mewnol ac yn trosglwyddo’r plentyn i ofal gwarchodol y wladwriaeth neu’r awdurdodau amddiffyn, er mwyn cynnal asesiad meddygol a threfnu lleoliad cyn mabwysiadu.

Image
Lowri Hughes a'i merch
Lowri Hughes a'i merch Enlli

Eglurodd Lowri ei bod yn gobeithio na fydd yr un fam angen defnyddio Safe Haven, ond y byddai’n “werth chweil” os y gallai ei deiseb ysgogi newid fyddai'n achub bywyd un babi, hyd yn oed.

Dywedodd bod clywed hanes y ferch fach, sydd wedi cael ei henwi'n Ceri, gafodd ei chanfod ar lannau'r Fenai, wedi ei chyffwrdd fel rhiant.

“Roedd y stori wedi cyffwrdd fi’n emosiynol, yn enwedig fel mam fy hun,” meddai Lowri.

“’Dw i eisiau i ferched wybod bod yna opsiynau ar gael iddyn nhw, a bod angen gwneud mwy i helpu babis mewn sefyllfaoedd fel hyn. 

“Mae pob babi’n haeddu cyfle i fyw, a ‘dw i’n meddwl bod angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i roi’r cyfle yna iddyn nhw,” ychwanegodd.

Llywodraeth: Gofal ar gael 24/7

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Pan fo rhieni yn wynebu amgylchiadau enbyd ac yn teimlo nad ydynt yn gallu gofalu am eu baban newydd-anedig, mae gweithwyr iechyd proffesiynol megis bydwragedd, ymwelwyr iechyd a gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol arbenigol ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ym mhob bwrdd iechyd yng Nghymru i ddarparu cymorth corfforol a seicolegol ar unwaith mewn amgylchedd cefnogol ac anfeirniadol. 

"Os yw unrhyw riant yn teimlo wedi’i lethu wrth ofalu am ei faban newydd-anedig, gall gysylltu â gweithiwr iechyd proffesiynol neu ffonio 111 i gael cymorth a chyngor.”

Mae’r ddeiseb bellach wedi mynd y tu hwnt i 250 o lofnodion ac felly fe fydd Pwyllgor Deisebau'r Senedd yn ei thrafod. Er mwyn i'r ddadl gael ei hystyried yn y Senedd bydd angen mwy na 10,000 o lofnodion ar y ddeiseb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.