Plismon o Lanelli wedi boddi'n ddamweiniol ar ôl noson allan ym Mryste
Bu farw plismon o Sir Gaerfyrddin drwy foddi'n ddamweiniol ar ôl disgyn i mewn i harbwr wedi noson gyda ffrindiau ym Mryste, yn ôl casgliadau cwest ddydd Mawrth.
Roedd Rehaan Akhtar, 28 oed o Lanelli, wedi bod yn yfed gyda ffrindiau ac fe gafodd ei weld diwethaf yn ystod oriau man 23 Tachwedd y llynedd.
Clywodd Llys Crwner Avon nad oedd Mr Akhtar wedi dychwelyd i’r hostel ble’r oedd yn aros, ac fe gafodd ei gofnodi fel person coll.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan ddeifwyr yn harbwr Bryste ar fore 24 Tachwedd.
Dywedodd Corey Griffiths, un o’r aelod o’r grŵp oedd wedi bod allan gyda Mr Akhtar, eu bod wedi dechrau yfed yn ystod y prynhawn, ac wedi parhau ar ôl hanner nos.
Roedd pawb wedi yfed tua wyth peint o lager, dau coctêl a Jagerbomb wrth ymweld â sawl bar a thafarn yn y ddinas, meddai.
Dywedodd Mr Griffiths fod tri ffrind wedi aros allan i brynu bwyd, tra bod Mr Akhtar ac e wedi dychwelyd i’r hostel.
“Cerddais dros y bont gyda Rehaan ac rwy’n cofio siarad a bod ar fy ffôn. Y peth nesaf rwy’n ei gofio yw bod y tu mewn i’r hostel yn ceisio cael goriad i’r ystafell, gan mai dim ond un goriad oedd gennym rhwng tri.
“Ro’n i’n meddwl bod Rehaan wedi bod gyda mi pan wnes i fynd i mewn, ond yn amlwg nid oedd hynny’n gywir.
“Roeddem ni i gyd wedi bod yn yfed drwy’r dydd ac o ran sut roedd Rehaan yn ymddangos, ro’n i’r un peth. Roedd e ‘di meddwi ond doedd ‘na ddim un adeg pan wnes i sylwi ei fod yn fwy meddw na neb arall. Roedd yn ymddangos fel pawb arall.”
Fe wnaeth archwiliad post mortem ddangos bod Mr Akhtar wedi boddi.
Dangosodd profion tocsicoleg ei fod â darlleniad o 260mg o alcohol fesul 100ml o waed – sydd deirgwaith dros y terfyn yfed a gyrru.
Dywedodd y patholegydd Karin Denton ei bod yn debygol fod lefel yr alcohol yn system Mr Akhtar wedi bod yn “ffactor” yn y cwymp i mewn i ddŵr yr harbwr.
“Mae’r dŵr yn hynod o oer yr adeg yna o’r flwyddyn,” meddai.
Daeth ymchwiliad yr heddlu i’r canfyddiad nad oedd trydydd parti wedi chwarae rhan yn ei farwolaeth.
Roedd swyddogion wedi dod o hyd i dystiolaeth CCTV yn dangos rhywun oedd yn cyfateb i ddisgrifiad Mr Akhtar yn “cwympo i mewn i’r afon o flaen Canolfan Gelfyddydau Arnolfini.”
Cofnododd y crwner yn ffurfiol ar ddiwedd y cwest iddo farw'n ddamweiniol.
Roedd Mr Akhtar yn gwnstabl gyda Heddlu De Cymru.
Ymunodd â’r heddlu gyntaf fel swyddog cymorth cymunedol yr heddlu.
Roedd yn swyddog cynorthwyol yng Nghaerdydd o fis Hydref 2021 a daeth yn gwnstabl Heddlu'r De yn Abertawe ym mis Medi 2023.