Yr actor Andrew Teilo'n cwyno am lun AI ohono fel cefnogwr Reform UK
Mae actor yn yr opera sebon Pobol y Cwm yn dweud fod person wedi creu delwedd AI ohono gan honni ei fod yn aelod o'r blaid Reform UK.
Yn ôl Andrew Teilo, sydd hefyd yn gynghorydd Plaid Cymru yn ardal Llandgadog gyda Chyngor Sir Gâr, cafodd y llun ohono ei bostio ar-lein.
Mewn neges ar Facebook fe ddywedodd fod yr hyn sydd wedi digwydd wedi cael effaith arno ef a'i deulu:
"Siomedig oedd cael gwybod bod unigolyn diegwyddor iawn wedi creu delwedd AI ohonof yn honni fy mod yn aelod o Reform UK, a'i bostio ar-lein.
"Dydw i ddim yn gwybod pam y gwnaeth hyn, ond mae wedi peri cryn ddiflasdod imi a'm teulu yn ddiweddar," meddai.
Mae wedi chwarae rôl Hywel Llywelyn ar Pobol y Cwm ers 1990.
Mae hefyd yn gerddor ac yn awdur.
Dywedodd yn ei neges ei fod nawr yn cael cyngor cyfreithiol er mwyn delio gyda'r mater.
"Yr wyf ar hyn o bryd yn siarad gyda chyfreithwyr ynghylch sut mae delio â hyn yn y modd cywir; mae'r unigolyn eisoes wedi tunnu'r llun i lawr, ond hwyrach bod yna 'screenshots' o'r llun yn bodoli hefyd.
"Dydy'r ffaith ei fod wedi dileu'r ddelwedd ddim yn ddigon da erbyn hyn; fe all effeithio arnaf yn yr hir dymor fel gwleidydd ac fel unigolyn."
Ar ddiwedd y neges mae llun ohono gyda'r Aelod Seneddol Plaid Cymru, Cefin Campbell ag eraill yn dal placardiau Plaid Cymru.