Pleidleisio o blaid bendithio priodasau o'r un rhyw yn barhaol

Cherry Vann

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid caniatáu bendithio priodasau a phartneriaethau sifil o'r un rhyw yn barhaol.

Ar hyn o bryd mae clerigwyr yn gallu cynnig hyn wedi i'r corff llywodraethu bleidleisio o blaid y cynnig ym mis Medi 2021.

Ond roedd y bil yn cynnig bod y gwasanaeth yn cael ei ddefnyddio’n arbrofol am bum mlynedd. Roedd hi hefyd yn benderfyniad unigol i'r clerigwyr os oedden nhw'n dymuno arwain y gwasanaeth.

Bellach mae'r Eglwys yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid ei ganiatáu yn barhaol.

Roedd angen i'r bleidlais dderbyn mwyafrif o ddwy ran o dair gan yr aelodau lleyg, clerigwyr ac esgobion.

Fe wnaeth 48 o aelodau lleyg bleidleisio o blaid, gyda dau yn ymatal, gyda chlerigwyr yn pleidleisio o 32 i saith gyda phum yn ymatal, cyn i esgobion gadarnhau pasio'r mesur heb unrhyw wrthwynebiadau.

Mae'n golygu y bydd y geiriad, a gafodd ei gyflwyno gyntaf bum mlynedd yn ôl, bellach yn cael ei ychwanegu at y Llyfr Gweddi Gyffredin – sy'n cynnwys y ffurf safonol ar gyfer gweddïau a bendithion cyffredin yr Eglwys yng Nghymru.

Dywedodd yr Eglwys yng Nghymru fod yna gyfnod o "wrando ac adlewyrchu" wedi bod gydag eglwysi ar draws y wlad cyn cyflwyno'r bil.

Wedi iddi gael ei hethol ym mis Gorffennaf 2025, Cherry Vann yw Archesgob benywaidd cyntaf Cymru ac Archesgob LHDT+ cyntaf Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.