'Plant yn cael eu methu’ medd cyn-weithiwr tîm plant anabl Cyngor Gwynedd
'Plant yn cael eu methu’ medd cyn-weithiwr tîm plant anabl Cyngor Gwynedd
Mae cyn-aelod o staff adran gwasanaethau plant anabl Cyngor Gwynedd wedi dweud bod ‘plant yn cael eu methu’ a bod pryderon am lefelau staffio yn y gwasanaeth sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dwys.
Mewn cyfweliad anhysbys â rhaglen Y Byd ar Bedwar, dywedodd un cyn-weithiwr fod staff yn aml yn crio ac yn ei chael hi’n anodd ymdopi â’r gwaith.
Mae ffigyrau Rhyddid Gwybodaeth a gafwyd gan raglen Y Byd ar Bedwar yn dangos bod mwy na hanner o weithwyr cymdeithasol Tîm Derwen wedi gadael rhwng 2023 a 2026, ac nad yw’r swyddi hynny wedi’u llenwi gan bobl â’r un cymwysterau proffesiynol.
Mae Tîm Derwen yn wasanaeth arbenigol sy’n cefnogi 250 o blant a phobl ifanc ag anghenion dwys. Mae’n cael ei gynnal ar y cyd gan Gyngor Gwynedd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae’r ffigyrau’n dangos bod nifer y gweithwyr cymdeithasol yn y tîm wedi gostwng o naw i bedwar, tra bod nifer yr ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol wedi cynyddu o ddau i saith.
Cymorth
Mae ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol yn darparu cymorth i deuluoedd, ond gweithwyr cymdeithasol cymwysedig a chofrestredig sydd â’r hyfforddiant a’r pwerau cyfreithiol i asesu anghenion cymhleth, amddiffyn plant a gwneud penderfyniadau statudol.
Mae llwyth achosion cyfartalog y gweithwyr cymdeithasol sydd ar ôl yn y tîm hefyd wedi cynyddu, o 25 achos yn 2023 i 31 yn 2026 - cynnydd o 24%.
Dywedodd cyn-aelod o staff a adawodd Dîm Derwen yn ddiweddar fod y sefyllfa’n arwain at nifer o staff yn “torri lawr”.
"Oedd na lot o amser lle oedda ni’n crio, oedda ni jyst yn torri lawr. Oedda ni jyst yn methu gwneud y gwaith ac oedda ni’n teimlo fel oeddan ni yn ffailio’r rhieni.
Ti ddim fod i weld rhywun yn crio a chael breakdown yn y gwaith."
Dywedodd y cyn-weithiwr hefyd fod yna bellter rhwng rheolwyr a’r staff ar lawr gwlad, ac nad oedd y rhai oedd yn gwneud penderfyniadau yn deall y realiti dyddiol.
"Oeddat ti’n gallu gweld bod rhai rhieni yn cyrraedd breaking point, ac oeddat ti’n methu gwneud dim byd i helpu."
Ychwanegodd fod rhestr hir o blant yn aros am oriau gofal gan y gwasanaeth, ond nad oedd modd cwrdd â’r galw oherwydd diffyg staff.
Dywedodd: “Be fydd y dyfodol i blant efo anghenion, ydi nhw’n mynd i gael cefnogaeth, ydy nhw am gael y gwasanaethau yma ar gael iddyn nhw ta?”
Fis diwethaf, roedd 25 o deuluoedd lleol ar restr aros i dderbyn gweithiwr cymdeithasol o fewn y tîm.
Dywedodd y gweithiwr cymdeithasol annibynnol Glesni Jenkins-Evans fod y gostyngiad yn nifer y gweithwyr cymdeithasol yn effeithio ar y cymorth mae rhieni a phlant yn ei dderbyn.
"Byddwn i’n meddwl bod rhaid i bobl aros llawer yn hirach am wasanaeth, a falle erbyn bod nhw’n cael gwasanaeth, falle bod nhw mewn argyfwng."
'Argyfwng cenedlaethol'
Yn ôl Glesni, nid problem i Wynedd yn unig yw hon, ond argyfwng gwasanaethau plant ar draws Cymru gyfan oherwydd anawsterau cadw a recriwtio staff profiadol.
"Mae llai o weithwyr cymdeithasol mewn swyddi cyngor na erioed," meddai.
"Mae’r maes angen mwy o bobl, ond mae angen cadw’r staff sydd yna hefyd er mwyn iddyn nhw gael profiad a dod i adnabod y teuluoedd a gweithio gyda nhw am flynyddoedd."
Mae’r heriau staffio hefyd yn cyd-fynd â phwysau ariannol ar gyllideb y gwasanaeth.
Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, roedd gan Dîm Derwen gyllideb o dros £3.6 miliwn, gan gynnwys miliwn o bunnoedd ychwanegol o’r flwyddyn gynt.
Er hynny, bu gorwariant o bron i hanner miliwn o bunnoedd.
'Heriau recriwtio'
Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Er na allwn drafod materion staffio unigol, rydym yn cydnabod fod Cyngor Gwynedd - fel cynghorau ac awdurdodau eraill ar draws Cymru a thu hwnt - yn wynebu heriau recriwtio a chadw staff yn y maes cymhleth hwn.
“Wedi dweud hynny, rydym yn pwysleisio mai ein staff yw ein hadnodd pwysicaf ac rydym wedi ymrwymo i’w cefnogi wrth iddynt ddelio a llwyth gwaith dyrys bob diwrnod o’r flwyddyn. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Academi Gofal Gwynedd gyda chynllun 5 mlynedd yn ei le i recriwtio a hyfforddi gweithlu cymwys a hyderus.
“Ymysg y gwelliannau rydym yn eu cyflwyno i wella profiad defnyddwyr a staff, mae:
Cynnydd sylweddol iawn yng nghyllideb Derwen dros y blynyddoedd diwethaf, a hynny mewn ymateb i’r cynnydd sylweddol yn y galw a chymhlethdod achosion.
Cynnal sesiynau gwrando gyda theuluoedd er mwyn datblygu’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu. Mae rhain wedi bod yn llwyddiannus ac mae rhagor i ddod.
Mae’r Cyngor wedi agor tri cartref bychan ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion a chynlluniau i agor rhagor ar y gweill.”
Bydd rhaglen Y Byd ar Bedwar: Gofal Dros y Ffin ar S4C, BBC iPlayer ac ar Youtube.