Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin yn cyfarfod i drafod annibyniaeth
Fe fydd arweinwyr Plaid Cymru, yr SNP a Sinn Féin yn cwrdd yng Nghaerdydd ddydd Llun i drafod annibyniaeth o’r Deyrnas Unedig.
Mae disgwyl y bydd Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog yr Alban, John Swinney, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon, Michelle O'Neill a Llywydd Sinn Féin, Mary Lou McDonald, yn arwyddo memorandwm cyd-ddealltwriaeth sydd yn gwthio am yr hawl i gynnal refferendwm dros annibyniaeth mewn gwledydd datganoledig.
Yn ôl adroddiadau’r Press Association, fe fydd yr arweinwyr yn cwrdd fel penaethiaid eu pleidiau gwleidyddol yn hytrach na mewn capasiti llywodraethol.
Mae Plaid Cymru’n dweud bydd yr arweinwyr “yn galw ar lywodraeth San Steffan i baratoi, cynllunio a hwyluso newid cyfansoddiadol yng Nghymru, yr Alban a gogledd Iwerddon.”
Nid oes refferendwm annibyniaeth wedi’i gynnal ers i’r Alban bleidleisio o blaid aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, o 55.3% i 44.7%, yn 2014.
Mae Prif Weinidog y DU, Andy Burnham wedi dweud bod refferendwm arall ar annibyniaeth yn yr Alban “oddi ar y bwrdd”, ar ôl awgrymu y byddai’n agored i’r posibilrwydd pe byddai “consensws clir".
Wrth ymateb i’r cyfarfod, dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn “canolbwyntio ar ddatrys y problemau sy’n golygu mwyaf i deuluoedd, gan gynnwys lleddfu pwysau ariannol y cartref...na chymryd rhan mewn dadleuon cyfansoddiadol neu refferenda pellach".
‘Cyd-weithio’
Dywedodd Plaid Cymru y byddai’r trafodaethau yn canolbwyntio “ar nodi meysydd ymarferol o bartneriaeth o amgylch yr economi, ynni a chydweithrediad Ewropeaidd a rhyngwladol".
Wrth siarad cyn y drafodaeth, dywedodd Rhun ap Iorwerth: “Ar draws yr ynysoedd hyn, rydym yn gweld tirwedd wleidyddol newydd yn dod i'r amlwg, gyda chydnabyddiaeth gynyddol nad yw model San Steffan yn gweithio mwyach.
"Mae gan ein pleidiau lawer i'w ennill o weithio gyda'i gilydd, fel partneriaid cyfartal, lle rydyn ni'n rhannu buddiannau cyffredin a lle gall cydweithredu wella bywydau'r bobl rydyn ni'n eu cynrychioli.
“Edrychaf ymlaen at gryfhau'r berthynas rhwng ein pleidiau a chymryd cam arall tuag at bartneriaeth newydd rhwng ein cenhedloedd.”
Dywedodd Arweinydd yr SNP, John Swinney: "Daw'r drafodaeth hon yr wythnos ar ôl i'r Prif Weinidog dderbyn y dylai refferendwm gael ei gynnal pan fydd cefnogaeth mwyafrif i annibyniaeth yn yr Alban.
“Mae'r gydnabyddiaeth honno y gall pobl yr Alban benderfynu ar eu dyfodol cyfansoddiadol eu hunain yn hir ddisgwyliedig.
"Heddiw, bydd ein pleidiau yn dod at ei gilydd ac yn ymrwymo i weithio mewn partneriaeth ar feysydd fel cyfiawnder cymdeithasol, ynni, a'r hawl i hunanbenderfyniad cenedlaethol."
Ychwanegodd Is-lywydd Sinn Féin Michelle O'Neill: "Mae ethol tri Phrif Weinidog Cenedlaetholgar am y tro cyntaf ar yr ynysoedd hyn yn arwydd clir bod pobl yn gweld nad yw San Steffan yn gweithio i bobl y Gogledd, yr Alban na Chymru.
"Bydd cryfhau'r berthynas rhwng y tair plaid a dod o hyd i dir cyffredin yn ein helpu i dyfu a chreu gwell cyfleoedd i'r gweithwyr, teuluoedd a chymunedau rydyn ni'n eu cynrychioli.
"Ac yn y pen draw, bydd hyn yn ein harwain tuag at annibyniaeth ac yn rhydd o hualau San Steffan."
Yr ymateb o San Steffan
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig: "Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i gyflawni newid ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig ac mae'n credu'n gryf yn yr Undeb.
“Mae'r Deyrnas Unedig ar ei gorau pan fydd pobl yn dod ynghyd gyda’n gwerthoedd cyffredin a pharodrwydd i ddatrys problemau, yn hytrach na chreu rhaniadau.
“Mae Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i deuluoedd, gan gynnwys lleddfu pwysau ar gyllid cartrefi a darparu mwy o ddiogelwch economaidd, yn hytrach na chymryd rhan mewn dadleuon cyfansoddiadol neu refferenda pellach.
“Mae dull y Prif Weinidog o weithio gyda'r Prif Weinidog a'r Dirprwy Brif Weinidog yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn seiliedig ar bartneriaeth a chydweithio, gan ganolbwyntio ar gyflawni twf a swyddi da i bobl ar draws pob rhan o'n gwlad.”
Llun: PA
