Plaid Cymru yn parhau i chwilio am gytundeb munud olaf ar gynlluniau gwario tyngedfennol
Mae llywodraeth Plaid Cymru yn parhau i chwilio am gytundeb munud olaf cyn pleidlais dyngedfennol yn y Senedd ar ei chynlluniau gwario nos Fawrth.
Dyma'r her fwyaf y mae'r llywodraeth newydd wedi'i hwynebu ers dod i rym ym mis Mai, wrth iddi wneud ymdrech olaf i geisio perswadio aelodau Llafur i gefnogi ei chynlluniau.
Gan nad oes ganddi fwyafrif yn y Senedd, mae angen cefnogaeth aelodau o bleidiau eraill yn y Senedd ar Blaid Cymru.
Mae Reform UK a'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud nad oes unrhyw drafodaethau wedi'u cynnal gyda nhw, ac mae disgwyl i'r ddwy blaid bleidleisio yn erbyn y cynlluniau.
Ac mae anghytuno'n parhau rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur ynghylch faint y dylid ei wario ar ddarpariaeth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Brynhawn dydd Llun, fe wnaeth y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, anfon llythyr at arweinydd dros dro y Blaid Lafur, Ken Skates.
Dywedodd y byddai'r llywodraeth yn barod i fuddsoddi £120m yn uniongyrchol mewn darpariaeth ADY dros y tair blynedd nesaf.
Dywedodd y byddai hynny'n sicrhau “bod darpariaeth ADY yn cael ei chryfhau'n barhaus a bod y cynaliadwyedd sydd ei angen yn cael ei feithrin”.
“Fodd bynnag, er mwyn bod yn dryloyw, rhaid i mi bwysleisio na fydd cyllid ychwanegol ar gyfer ADY yn bosibl heb i'r gyllideb atodol gael ei phasio,” ychwanegodd Rhun ap Iorwerth.
Mae Llafur Cymru wedi dweud o'r blaen eu bod nhw am weld £100m yn cael ei wario eleni ar ddarpariaeth ADY. Maen nhw eisoes wedi gwrthod cynnig o £80m dros ddwy flynedd.
Dywedodd Ken Skates ddydd Sul: “Bu'n rhaid rhoi pwysau ar Blaid Cymru i gynnig cyllid newydd ar gyfer ADY.
“Nawr, byddwn ni'n dal ati i bwyso nes bod plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y fargen deg maen nhw'n ei haeddu.”
Pe bai'r Senedd yn gwrthod y gyllideb atodol, gallai gweinidogion ddychwelyd gyda chynnig diwygiedig naill ai yn ystod toriad yr haf, pe bai caniatâd yn cael ei roi, neu yn yr hydref.
Hyd nes y bydd y cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddai'r llywodraeth yn cadw at y cynlluniau gwario sydd eisoes ar waith.
'Uchelgeisiol'
Bydd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth hefyd yn cyhoeddi cam cyntaf rhaglen ddeddfwriaethol newydd Llywodraeth Cymru mewn datganiad i'r Senedd ddydd Mawrth.
Ymhlith y ddeddfwriaeth arfaethedig bydd bil i gryfhau hawliau pobl sy'n byw mewn llety rhent preifat, meddai.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth bellach dros dymor y Senedd i wella fforddiadwyedd tai a chyfyngu ar droi allan heb fai gan landlordiaid preifat.
Bydd deddfwriaeth i greu cynllun Hawl i Brynu Cymunedol hefyd yn cael ei chyflwyno, er mwyn galluogi grwpiau lleol i nodi a chofrestru asedau yr ystyrir eu bod o werth uchel i'w cymuned, gan roi cynnig cyntaf i'r gymuned os yw'r perchnogion presennol yn penderfynu gwerthu.
Bydd deddfwriaeth sy'n sicrhau bod anghenion pobl mewn ardaloedd gwledig yn cael eu hystyried wrth lunio polisïau, neu ‘prawfesur gwledig’, hefyd yn cael ei chyflwyno.
Bydd y Prif Weinidog yn dweud wrth y Senedd: "Mae'r gwerth y mae fy llywodraeth yn ei roi ar degwch wedi ein hysgogi i weithredu i gryfhau hawliau tenantiaid yn y sector rhentu preifat.
"Bydd hyn yn gosod y sylfaen ar gyfer newidiadau mwy sylweddol a fydd yn gwella fforddiadwyedd tai, yn gwneud rhent yn decach ac yn cyfyngu ar droi allan heb fai.
"Rydym hefyd yn datblygu cynigion i ddeddfu ar gyfer yr Hawl i Dai Digonol, oherwydd ni ddylai unrhyw un gael ei orfodi i ddioddef y pryder a'r stigma annerbyniol sydd mor aml yn dod gyda chael unman i'w alw'n gartref.
"Rydym am amddiffyn a gwella ymdeimlad unigryw Cymru o gymuned. Mae ein cenedl yn dapestri cyfoethog o dref a gwlad, gogledd a de, hen ac ifanc.
"Byddwn yn bwrw ymlaen â datblygu cynllun hawl i brynu cymunedol ac yn darparu'r sail ddeddfwriaethol i alluogi grwpiau cymunedol cymwys i enwebu a chofrestru asedau cymunedol gwerthfawr, a chael yr hawl i gynnig cyntaf pan fydd y perchnogion yn penderfynu gwerthu.
"Mae hon yn rhaglen bellgyrhaeddol ac uchelgeisiol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd fel llywodraeth, er budd holl gymunedau Cymru."