Person o'r DU yn ennill £181 miliwn ar y loteri nos Fawrth
Mae un person lwcus o'r DU wedi ennill jacpot yr EuroMillions gwerth £181m nos Fawrth, yn ôl cadarnhad gan y Loteri Genedlaethol.
Llwyddodd un chwaraewr i ddewis y pum rhif - 12, 14, 27, 44 a 50 - ynghyd â'r 'Sêr Lwcus' - 04 a 12 - ac felly yn cipio'r jacpot.
Y swm o £181,073,415.70 yw'r trydydd mwyaf yn hanes Loteri Genedlaethol y DU, meddai'r gweithredwr, Allwyn.
Dywedodd un o swyddogion cwmni Allwyn, Andy Carter, fod yr enillion yn gallu gwneud "newid mawr" i fywydau pobl: "Dylai unrhyw un a brynodd docyn gymryd eiliad i'w wirio'n ofalus - gallech chi fod yr enillydd rydyn ni'n chwilio amdano," meddai.
"Gyda ffortiwn o'r fath, byddai gan yr enillydd lwcus hwn gyfoeth sy'n gyfartal â phobl fel Adele (gwerth amcangyfrifedig o £170 miliwn).
"Dychmygwch y math o ffordd o fyw y gallai hynny ei ddatgloi!"
Hefyd yn y loteri nos Fawrth, parodd un enillydd arall o'r DU y pum prif rif ac un 'Seren Lwcus' i ennill £355,164.90.