Y person hynaf yn y byd yn dathlu ei phenblwydd yn 117 oed
Mae’r person hynaf yn y byd yn dathlu ei phenblwydd yn 117 oed ddydd Gwener.
Bydd Ethel Caterham, sy’n byw mewn cartref gofal yn Surrey, de-ddwyrain Lloegr, yn dathlu’r achlysur gyda’i theulu a’i ffrindiau.
“Diolch am yr holl ddymuniadau caredig ar gyfer fy mhen-blwydd,” meddai mewn datganiad.
“Hyd yn oed yn 117 oed, rwyf wedi cael llawer o brofiadau cyntaf eleni - o roi mwythau i lama, i ddal llaw’r Brenin.
“Rwyf wedi cael diwrnod hyfryd yn dathlu gyda fy nheulu a’m ffrindiau, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth ddaw yn ystod y flwyddyn nesaf.”
Daeth Mrs Caterham yn berson hynaf y byd sy’n dal yn fyw ym mis Ebrill 2025, ar ôl marwolaeth y Chwaer Inah Canabarro Lucas o Frasil, a oedd yn 116 oed.
Ym mis Medi y llynedd, ychydig ar ôl ei phen-blwydd yn 116 oed, cafodd ymweliad gan y Brenin Charles.
Yn ystod y cyfarfod, cofiodd Mrs Caterham am arwisgiad Charles yn Dywysog Cymru yn 1969, pan oedd yn 21 oed.
“Roedd pob un o’r merched mewn cariad â chi ac eisiau eich priodi,” meddai wrtho.
Roedd Mrs Caterham yn dal i yrru tan ei bod yn 97 oed, ac roedd yn mwynhau chwarae bridge contract tan yn ddiweddar.
Fe wnaeth oroesi Covid-19 yn 2020 a hithau'n 110 oed ar y pryd.
Bywyd llawn antur
Cafodd Mrs Caterham ei geni ar 21 Awst 1909 yn Shipton Bellinger, Hampshire, bum mlynedd cyn dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf.
Hi oedd yr ail ieuengaf o wyth o frodyr a chwiorydd, ac mae hi’n un o’r bobl olaf sy’n dal yn fyw a gafodd eu geni yn ystod teyrnasiad Edward VII.
Yn 1927, yn 18 oed, teithiodd i India, lle bu’n gweithio fel au pair i deulu milwrol tan ei bod yn 21 oed.
Fe wnaeth gyfarfod ei gŵr, Norman, a oedd yn is-gyrnol ym Myddin Prydain, mewn parti yn 1931. Bu farw Norman yn 1976.
Bu'r ddau’n byw yng Nghaersallog (Salisbury) cyn i Norman gael ei adleoli i Gibraltar ac yna Hong Kong.
Tra oeddent yn Hong Kong, sefydlodd Mrs Caterham ysgol feithrin a magodd ddwy ferch. Bu farw’r ddwy ohonynt cyn Mrs Caterham.
Bu i un o’i chwiorydd, Gladys, fyw hyd at 104 oed.
Y person hynaf erioed, yn ôl Guinness World Records, oedd Jeanne Calment o Ffrainc, a fu farw yn 122 oed a 164 diwrnod.