Penwythnos tyngedfennol i Wrecsam a Chasnewydd

Penwythnos tyngedfennol i Wrecsam a Chasnewydd

Mae'n benwythnos tyngedfennol i Wrecsam a Chasnewydd gyda'r Dreigiau yn ceisio hawlio lle yn y gemau ail-gyfle a'r Alltudion yn brwydro i aros yn Adran Dau.

Wedi 45 o gemau ar draws cyfnod o naw mis, mae tymor y ddau glwb yn dod i lawr i'r gêm olaf.

I Wrecsam, fe allai buddugoliaeth sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle, a chyfle i gyrraedd Uwch Gynghrair Lloegr.

A byddai buddugoliaeth i Gasnewydd yn ddigon i gadw eu statws yn Adran Dau am dymor arall.

Dyw pethau ddim mor ddu a gwyn i Wrecsam, gyda sawl ffactor yn gallu effeithio ar eu safle yn y gynghrair.

Wrecsam sydd yn eistedd yn safle olaf y gemau ail-gyfle ar hyn o bryd, gyda Hull sydd yn y seithfed safle, ac ar yr un nifer o bwyntiau â Wrecsam ond â gwahaniaeth goliau gwaeth, ac mae Derby yn yr wythfed safle, un pwynt y tu ôl i Wrecsam a Hull.

Felly bydd Wrecsam yn gorffen yn chweched os byddan nhw’n gwneud yn well na chanlyniad Hull ac yn gwneud cystal â neu’n well na chanlyniad Derby.

Os byddai Wrecsam a Hull gyda’r un canlyniad, yna byddai’r tîm sydd â’r gwahaniaeth goliau gorau yn sicrhau’r safle olaf yn y gemau ail-gyfle.

Wrecsam sydd â’r gwahaniaeth goliau uchaf ar hyn o bryd, sydd un yn well na gwahaniaeth goliau Hull.

Os bydd y gwahaniaeth goliau’n gyfartal, y tîm sydd wedi sgorio’r nifer uchaf o goliau fydd yn y gemau ail-gyfle - sef Hull - gan un gôl ar hyn o bryd.

Image
Darlun gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth
Darlun gemau ail-gyfle'r Bencampwriaeth

Mae Elis Griffiths wedi teithio ledled Lloegr y tymor yma yn cefnogi Wrecsam, ac mae'n hyderus bod y Dreigiau'n gallu sicrhau eu lle yn y gemau ail-gyfle.

Cup final ydi hi rili, rhaid curo a does dim angen dweud mwy na hynna i fod yn onest," meddai wrth Newyddion S4C.

“I fod yn onest o’n i jyst isho aros i fyny, felly ma' bod yn y play-offs mor agos, ma’n masif dydi?

“Ar ein diwrnod ni ar y Cae Ras does neb yn gallu curo ni, dwi’n optimistaidd iawn ond yn poeni am y ddau dîm o dan ni.

“Byddai back to back to back to back to back yn eitha special, felly pam ddim!"

Atgofion 2017

Yn wahanol iawn i Wrecsam, mae Casnewydd yn brwydro i gadw eu lle yng nghynghreiriau pêl-droed Lloegr.

Maen nhw dau safle yn uwch na'r safleoedd disgyn, gydag un pwynt yn unig yn gwahaniaethu pedwar o dimau.

Yn ffodus i Gasnewydd, nhw sydd mewn rheolaeth ar ddiwrnod olaf y tymor.

Bydd buddugoliaeth yn sicrhau eu lle yn y gynghrair am dymor arall - ac mae'r Alltudion wedi gwneud union hynny yn y gorffennol.

Yn 2017 roedd angen buddugoliaeth yn erbyn Notts County i sicrhau eu lle yn y gynghrair, ac roedd gôl hanesyddol Mark O'Brien yn y munud olaf wedi arwain at un o ddyddiau mwyaf cofiadwy yn hanes y clwb.

Image
Darlun y safleoedd disgyn yn Adran Dau
Darlun y safleoedd disgyn yn Adran Dau

Mae unrhyw beth llai na buddugoliaeth yn rhoi Casnewydd mewn perygl o ddisgyn i’r Gynghrair Genedlaethol.

Pe bai'r Alltudion yn cael gêm gyfartal, fe fydd angen i Crawley neu Harrogate golli eu gemau nhw.

Os bydd Casnewydd yn colli, maen nhw angen gobeithio bod Crawley neu Harrogate yn colli. Byddai’r ddau dîm yna yn cael gêm gyfartal neu ennill yn golygu bod Casnewydd yn disgyn.

Ers yn fachgen ifanc mae Marc Peplow wedi cefnogi clwb ei ddinas enedigol.

Fe fydd ef a miloedd o gefnogwyr eraill yn teithio i Barrow ddydd Sadwrn gyda'r gobaith y bydd Casnewydd yn gallu cadw'r clwb yn Adran Dau.

"Mae'r gêm hon yn enfawr achos doeddwn i ddim yn meddwl byddwn ni yn y sefyllfa yma," meddai Marc wrth Newyddion S4C.

"Pe bai chi wedi dweud wrth gefnogwyr Casnewydd ym mis Ionawr bod hwn yn ein dwylo ni, byddwn ni wedi gwneud unrhyw beth i wireddu hynny.

"Dyma'r pedwerydd tro i'n tymor gael ei benderfynu ar y diwrnod olaf, dwywaith yn cyrraedd y gemau ail-gyfle a nawr dwywaith yn disgyn o'r gynghrair.

"Roedd Notts County yn 2017 yn wahanol achos roeddem yn chwarae'n dda yn y misoedd cyn y gêm honno, mae hwn yn wahanol achos dydyn ni ddim wedi chwarae mor dda."

Image
Marc gyda'i ffrind, Logan yn un o gemau Casnewydd
Marc gyda'i ffrind, Logan yn un o gemau Casnewydd. (Llun: Marc Peplow)

Ychwanegodd Marc ei fod yn credu bod dyfodol y clwb "yn y fantol" pe bai nhw'n disgyn i'r Gynghrair Genedlaethol.

"Dwi wir yn meddwl bod dyfodol y clwb yn y fantol pe bai ni'n disgyn, o ddifrif.

"Sai'n credu bod digon yn cael ei wneud i gynnal y clwb, does dim digon o fuddsoddiad.

"Mae chwaraeon yn enfawr i'r gymuned yma, mae Manchester City, Tottenham, Manchester United a Leeds i gyd wedi dod yma.

"Mae'n gwymp enfawr pe bai ni'n disgyn, mae angen cefnogaeth arnom ac yn y tymor byr mae hynny'n dod gan y chwaraewyr ar y cae ddydd Sadwrn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.