Penri Williams yn ennill Medal R. Alun Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026

Penri Williams

Mae Medal R. Alun Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las 2026 wedi cael ei chyflwyno i Penri Williams i nodi dros 40 mlynedd o wasanaeth gwirfoddol i’r Gymraeg a bywyd diwylliannol Cymru.

Yn enedigol o Borthmadog, ond bellach wedi ymgartrefu yn ardal Rhondda Cynon Taf, mae Penri Williams wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd Cymraeg y gymuned dros sawl degawd.

Mae'n cael ei gydnabod am olygu papur bro Tafod Elai am 38 mlynedd, yn ogystal â’i gyfraniad i nifer o gorau, gan gynnwys Côr Godre’r Garth, Côr y Mochyn Du/Hen Nodiant a Chôrdydd.

Roedd yn un o sylfaenwyr Clwb y Dwrlyn yn 1979 ac mae wedi bod yn ganolog i gynnal gweithgareddau Cymraeg yn ardal Creigiau, Gwaelod y Garth a Phentyrch.

Mae’r fedal yn cael ei chyflwyno’n flynyddol i berson sydd wedi gwneud cyfraniad gwirioneddol i gefnogi, cynnal a chyfoethogi diwylliant eu hardal leol, er cof am y diweddar Barch. R. Alun Evans.

Bu farw R. Alun Evans ychydig ddyddiau ar ôl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 yn 86 oed. 

'Cyfraniad i'r iaith'

Wrth siarad â Newyddion S4C, fe ddywedodd Penri Williams: "Mae o'n fraint mawr i dderbyn y fedal, do'n i ddim yn disgwyl o o gwbl ac mae'n braf i feddwl bod pobl yn gwerthfawrogi'r hyn dwi wedi bod yn neud, y cyfraniad dwi 'di neud i'r gymuned a'r ardal dros nifer o flynyddoedd rŵan mewn sawl maes.

"O'n i'n meddwl fod o'n bwysig gwneud cyfraniad i'r iaith Gymraeg ag o'n i isio gweld sut o'n i'n gallu helpu hynny ag o'n i'n falch iawn o weld papur bro Tafod Elai yn cael ei sefydlu ac o fewn blwyddyn, o'n i'n golygu'r papur ac wedi parhau i wneud hynny am gyfnod eitha’ hir.

"Fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hynny heb gael cyngor a chymorth gan lawer iawn o bobl yn yr ardal oedd am hybu'r Gymraeg ac oedd am i newyddion gael ei gyhoeddi ac oeddan nhw gyd yn help mawr i wneud fy ngwaith i'n weddol hawdd."

Wrth enwebu Penri Williams, dywedodd Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024: "Mae cyfraniad Penri i Gymreictod yr ardal yn amhrisiadwy.

"Mae’n un o’r bobl yna cewch bob amser ddibynnu arno.

"Defnyddiwn y gair ‘anhygoel’ yn rhy aml o lawer ond mae’r gamp mae wedi’i chyflawni gyda’r papur bro gan gyhoeddi 403 rhifyn, wir wedi bod yn anhygoel. Rydym fel tîm newydd yn ymdrechu i lenwi ei esgidiau ond mae'n her a hanner."

Dywedodd merch R. Alun, Betsan Powys: "Dwi’n nabod Penri ers blynyddoedd, ac yn gwybod o brofiad amdano fel rhywun sy’n cyfrannu’n dawel yn y cefndir, yn holi sut gall e helpu ac yn ateb y galw. 

"Mae hynny’n wir amdano mewn pob math o feysydd ond amlycaf i fi, fel cyd-aelod o Gôrdydd. 

"Roedd clywed, felly, mai Penri fydd yn cael Medal R. Alun eleni yn newyddion bendigedig. Sôn am ‘gymwynaswr bro’ - dyna Penri."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.