Penrhyndeudraeth: Ail-agor ffordd wedi i gerbyd fynd ar dân
Bu'n rhaid cau yr A487 yn nhref Penrhyndeudraeth yng Ngwynedd yn y ddau gyfeiriad wedi tân mewn cerbyd.
Roedd lluniau a fideo arlein yn dangos y cerbyd ar dân ger gorsaf betrol Esso ar gyrion dwyreiniol y dref.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i'r digwyddiad am 12.49, medden nhw.
Dywedodd Traffig Cymru bod y gwasanaethau brys yn bresennol a bod y ffordd wedi ail agor am 14.47.
Llun: Debbie Kerrigan
