‘Torcalonnus’: Cerflun o seren Monty Python ym Mae Colwyn wedi ei fandaleiddio

ITV Cymru
Cerflun Terry Jones

Mae cerflun o seren Monty Python, Terry Jones, ym Mae Colwyn wedi cael ei fandaleiddio lai na mis ers iddo gael ei ddadorchuddio.

Dywedodd y cerflunydd Nick Elphick ei fod yn “dorcalonnus” gweld y difrod i’r cerflun ar y promenâd rhwng Porth Eirias a’r Pier.

Fe gafodd Terry Jones, a fu farw yn 77 oed yn 2020, ei eni a’i fagu ym Mae Colwyn cyn symud i Loegr pan oedd yn bedair oed.

Un o gymeriadau mwyaf enwog Jones oedd yr organydd noethlymun a ymddangosodd ar Monty Python’s Flying Circus yn 1972.

Fe lwyddodd ffans y gyfres i godi £120,000 mewn chwe mis ar gyfer y gwaith gan y cerflunydd Nick Elphick, sydd â’i stiwdio i lawr y ffordd yn Llandudno.

Mae’r difrod yn cynnwys tynnu dau gnociwr drws oddi ar y cerflun.

Image
Nick Elphick
Nick Elphick

Mewn fideo ar Facebook, dywedodd Elphick bod y cerflun wedi dioddef “rywfaint o fandaliaeth”, ond bod pobl oedd yn mynd heibio wedi dod o hyd i’r cnocwyr drws oedd wedi torri ac wedi eu dychwelyd yn ddiogel iddo.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio trwsio’r cerflun, ond fe ddisgrifiodd y sefyllfa fel un “drist iawn, iawn”:

“Methu credu’r peth a dweud y gwir, rwy’n dorcalonnus

“Mae camerâu teledu cylch cyfyng yn gwylio’r cerflun. Felly pwy bynnag sydd wedi gwneud hyn, fe fydd ar gofnod.”

Bu farw Mr Jones yn 2020 yn 77 oed ar ôl dioddef math prin o ddementia.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.