Pen Llŷn: Anrhydeddu pedwar am dros 140 mlynedd o wasanaeth i'r bad achub
Mae pedwar aelod o fad achub ym Mhen Llŷn wedi derbyn gwobr am dros 140 mlynedd o wasanaeth.
Fe wnaeth Dylan Thomas, ei nith Caryl Thomas, Geraint Humphreys a Robat Jones dderbyn y wobr am eu gwaith gyda'r bad achub ym Mhorthdinllaen.
Mae'r pedwar wedi ennill Gwobr Gwasanaeth Hir, sef dull y Bad Achub o "gydnabod ymroddiad gwirfoddolwyr dros gyfnod hir."
Enillodd Dylan Thomas, Geraint Humphreys a Robat Jones wobr am wasanaethu am 40 o flynyddoedd. Mae Caryl Thomas yn derbyn gwobr am 20 mlynedd o wasanaeth.
Dechreuodd Robat Jones wirfoddoli gyda'r bad achub yn 1986 pan yn 22 oed.
Ers 1994 mae wedi gwasanaethu ar dri chwch achub gwahanol.
Un sydd wedi treulio llawer o amser gydag e yn ei yrfa yw Dylan Thomas. Mae e wedi cyflawni sawl rôl o fewn y bad achub gan gynnwys swyddog y wasg, prif lansiwr y cychod a rheolwr swyddfa.
Roedd ei dad yn gweithio fel mecanig i'r bad achub am gyfnod yn yr 1960au.
Dechreuodd gyda'r gwasanaeth ym Mehefin 1986 pan yn 17 oed, ond dechreuodd ei ddiddordeb yn yr RNLI llawer ynghynt.
Dyna oedd ei freuddwyd pan yn blentyn ifanc, meddai.
Trasiedi'r Kimya
Roedd Dylan a Robat ar ddyletswydd adeg trasiedi'r tancer Kimya ar 5 Ionawr 1991, pan gollodd 10 morwr eu bywydau.
"Roedd yr amodau yn ofnadwy, a chawsom ein galw tua 02:15 am fod tancer bychan, y Kimya mewn trafferthion
"Parodd yr ymgyrch am 13 awr ac yn drist, collodd 10 morwr eu bywydau y noson honno. O'r criw a oedd ar y bad achub y noson honno, dim ond Robat a finna sy'n dal i wirfoddoli ym Mhorthdinllaen," meddai Dylan Thomas.
Ymunodd Geraint Humphreys â'r criw ym Mhorthdinllaen yn 1986 pan yn 20 oed. Bydd yn dathlu 40 mlynedd gyda'r bad achub yn swyddogol fis Tachwedd eleni. Mae ganddo aelodau eraill o'i deulu yn cynorthwyo hefyd, gyda'i fab ieuengaf yn fecanig yno.
Ymunodd Caryl Thomas pan roedd hi'n 16 oed. Roedd hi eisiau dilyn ôl troed ei thaid, tad ac ewythr.
Dywedodd Caryl: "Mae'r RNLI yn agos at fy nghalon i a fy nheulu, gyda chenedlaethau wedi gwasanaethu ym mad achub Porthdinllaen.
"Roeddwn i hefyd eisiau helpu a rhoi rhywbeth yn ôl i fy nghymuned, yn ogystal ag achub bywydau ar y môr," meddai.

