Pêl-droediwr yn pledio'n euog i ymosod ar chwaraewr arall mewn gêm ym Mhorthmadog
Mae pêl-droediwr o Landdona ar Ynys Môn wedi cael dedfryd o garchar wedi’i gohirio ar ôl pledio’n euog i ymosod ar chwaraewr arall mewn gêm rhwng Porthmadog a Bae Trearddur ym mis Ionawr eleni.
Clywodd Llys Ynadon Caernarfon ddydd Llun bod chwaraewr Bae Trearddur, Thomas Taylor, 36 oed, wedi taro chwaraewr Porthmadog, Danny Brookwell, gyda’i benelin mewn gêm ar 17 Ionawr.
Cafodd Mr Brookwell gyfergyd ac anafaidau i'w geg o ganlyniad i’r ergyd, a ddigwyddodd wrth i dîm Borthmadog gymryd cic o’r smotyn yn ystod y gêm.
Mewn datganiad gan y dioddefwr, a gafodd ei ddarllen gan yr erlynydd Dianne Williams, dywedodd Mr Brookwell ei fod wedi adnabod Mr Taylor ers sawl blwyddyn cyn y gêm.
Dywedodd nad oedd drwgdeimlad rhwng y ddau dîm yn ystod y gêm.
Pan gafodd cic o’r smotyn ei rhoi i Borthmadog ar ôl trosedd arno gan chwaraewr arall, fe wnaeth Mr Brookwell sefyll ar ymyl y cwrt cosbi “ysgwydd wrth ysgwydd” â Taylor wrth i’w gyd-chwaraewr baratoi i gymryd y gic o’r smotyn.
“Yn sydyn, fe wnes i daro’r llawr. Eisteddais i fyny a gweld gwaed yn dod o fy nhrwyn a cheg. Doedd neb arall ar y cae wedi gweld y digwyddiad, roedd pawb yn canolbwyntio ar y gic o’r smotyn. Ro’n i’n wedi cael braw, ro’n i’n teimlo’n sigledig a doeddwn i ddim yn gallu parhau i chwarae.
“Doeddwn i ddim yn gwybod be oedd wedi achosi’r peth.”
Dywedodd Mr Brookwell ei fod yn teimlo’n sâl wedi’r digwyddiad, a bod ei wraig wedi rhoi moddion iddo i geisio atal y chwyddo.
“Roedd cael fy nharo’n anymwybodol mewn gêm bêl droed yn brofiad annifyr iawn. Fe wnaeth fideo o’r digwyddiad gael ei rannu ar-lein ac fe aeth yn feiral yn sydyn iawn. Roedd yr ymwybyddiaeth o bobl yn ei wylio yn achosi straen a phryder pellach i mi, ac arwain at nosweithiau di-gwsg.”
Roedd y digwyddiad wedi arwain ato i ystyried rhoi’r gorau i’r gamp, ychwanegodd Mr Brookwell.
“Mae pêl-droed wastad wedi dod a mwynhad mawr i mi, ond rŵan dwi’n teimlo’n nerfus ac ar bigau drain. Rwyf wedi ystyried gadael yn gyfan gwbl gan fod y teimlad nawr yn un o straen a phryder yn hytrach na hapusrwydd.”
Cafodd fideo o'r digwyddiad ei ddangos i'r llys, yn dangos Taylor yn taro Mr Brookwell â'i benelin.
Yn amddiffyn Taylor, fe ddywedodd Glyn Roberts bod ei gleient yn derbyn ei fod wedi ymosod ar Mr Brookwell a “nad oedd esgus” am hynny.
Dywedodd Mr Roberts bod Taylor yn honni i Mr Brookwell wneud sylwadau iddo yn ystod y gêm, gan gynnwys bygythiad i dorri ei goesau.
“Ni wnaeth y bygythiad gyfiawnhau’r ymddygiad a ddilynodd, ac mae’r diffynnydd eisiau mynegi ei wir edifarhad a hoffai ymddiheuro am ei ymddygiad y prynhawn hwnnw.”
Clywodd y llys bod Mr Taylor wedi chwarae pêl-droed proffesiynol dros Amwythig, cyn chwarae’n lled broffesiynol dros glwb Bromsgrove a chlybiau’r gogledd.
Cyn y gêm, roedd Taylor yn un o hyfforddwr y tîm ac nid oedd i fod i chwarae'r diwrnod hwnnw. Ond wedi anaf i chwaraewr, cafodd ei alw i chwarae yn y gêm.
Dywedodd Mr Roberts: “Mae’r sgil effeithiau iddo wedi bod yn sylweddol. Mae wedi cael ei gam-drin ar-lein, wedi derbyn bygythiadau a chamdriniaeth, mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn ers y digwyddiad.”
Cafodd Taylor ddedfryd o 24 wythnos o garchar wedi’i gohirio am 12 mis. Bydd yn rhaid iddo dalu £439 mewn costau i’r llys, gan gynnwys £200 mewn iawndal i Mr Brookwell.
