Ffestiniog: Dirwyo nyrs am ddyrnu cymydog mewn ffrae dros barcio
Mae nyrs o Wynedd oedd wedi ei chyhuddo o ddyrnu cymydog yn ei brest yn dilyn ffrae am barcio wedi derbyn dirwy o dros £2,200.
Fe gafwyd Christine Sharman, 69 oed, o Lan Ffestiniog, yn euog o ymosod ar Jane Jones ar ddiwedd achos llys yng Nghaernarfon ddydd Llun.
Roedd Mrs Jones wedi dioddef cleisiau wedi i Mrs Sharman ddefnyddio trais i fynd i mewn i'w chartref.
Roedd wedi gwadu'r cyhuddiadau yn ei herbyn.
Cafodd orchymyn gan ynadon i dalu £300 o gostau a £886 mewn costau ychwanegol.
Cafodd orchymyn atal am ddwy flynedd hefyd.
Dywedodd y cyfreithiwr Glyn Roberts ar ran yr amddiffyniad fod hwn yn achos "trist" ac roedd swyddog prawf wedi dweud fod gan Mrs Sharman elfennau bregus i'w phersonoliaeth.
Bwriad ei gleient oedd gwerthu ei thŷ, meddai, a dychwelyd i Orllewin Sir Efrog.