Pêl-droed: Dau glwb sydd ar frig y Cymru Premier i wynebu ei gilydd nos Sadwrn

Sgorio
Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Y Barri a'r Seintiau Newydd

Mae'n seithfed yn erbyn wythfed yn y Novira Cymru Premier ddydd Sadwrn wrth i Fae Colwyn deithio i dde Cymru i wynebu Pen-y-bont.

Ond y prif ffocws fydd yr ornest rhwng Y Barri a'r Seintiau, wrth i'r ddau dîm sydd ar frig y gynghrair, ac sydd heb golli'r tymor yn y gynghrair, wynebu ei gilydd.

Pen-y-bont (7fed) v Bae Colwyn (8fed) | Dydd Sadwrn – 12:30

Mae anghysondeb wedi creu problemau i Pen-y-bont y tymor hwn, ac er bod y tîm yn dal yn ddi-guro mi fydd Rhys Griffiths yn rhwystredig bod ei garfan wedi methu â churo’r Fflint na Cambrian yn eu dwy gêm ddiwethaf.

Y Seintiau Newydd (3) a Cei Connah (4) yw’r unig dimau i ildio llai o goliau na Phen-y-bont (5), ond sgorio yw prif broblem y Gleision gan fod yna saith tîm wedi taro mwy na nhw y tymor hwn (1.7 gôl y gêm).

Dyw Bae Colwyn heb ennill oddi cartref y tymor yma, ond mae gan y Gwylanod record berffaith gartref ar ôl trechu Llandudno o 2-0 ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Tydi Bae Colwyn heb golli mewn 90 munud yn eu pedair gornest ddiwethaf yn erbyn Pen-y-bont, ond y Gleision oedd yn dathlu yn y frwydr ddiweddaraf rhwng y timau wrth iddyn nhw guro carfan Michael Wilde ar giciau o’r smotyn yn rownd gynderfynol y gemau ail gyfle.

Record cynghrair diweddar:

Pen-y-bont: ͏ ✅✅✅➖➖

Bae Colwyn: ͏➖❌✅❌✅

Y Seintiau Newydd (2il) v Y Barri (1af) | Dydd Sadwrn – 17:15 (Yn fyw ar-lein)

Bydd gêm ola’r penwythnos, ac o bosib y gêm bwysicaf, yn cael ei chwarae yn Neuadd y Parc wrth i’r ceffylau blaen gyfarfod yng Nghroesoswallt.

Mae gan Y Barri record berffaith wedi chwe gêm, ac mae’r Seintiau wedi ennill pump yn olynol yn dilyn eu gêm ddi-sgôr ym Mhen-y-bont ar y penwythnos agoriadol.

Roedd yna amheuaeth ynglŷn â sut y byddai’r Barri’n ymdopi ar ôl colli gwasanaeth Ieuan Owen, Ollie Hulbert, Robbie Willmott a Ben Margetson dros yr haf – ond mae’n ymddangos fod Steve Jenkins wedi llenwi’r bwlch yn effeithiol gyda’i enwau newydd.

Mae Owen Brain (6 gôl) ac Elliott Dugan (5 gôl) ymysg prif sgorwyr y gynghrair, a does dim un tîm wedi sgorio mwy na’r Barri yn eu chwe gêm agoriadol (17).

Ond hon fydd yr her anoddaf i’r Dreigiau hyd yma, gan nad yw’r Barri wedi wynebu dim un o’r clybiau orffennodd yn y Chwech Uchaf y tymor diwethaf.

Y Seintiau Newydd sydd â record amddiffynnol orau’r gynghrair ar ôl cadw pedair llechen lân yn olynol ar ddechrau’r tymor, tra bo’r Barri ddim ond wedi cadw un llechen lân mewn chwe gêm.

Dyw’r Seintiau ond wedi colli un o’u 18 gornest flaenorol yn erbyn Y Barri, ond fe ddaeth y golled honno yn rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG y tymor diwethaf ble sgoriodd Ieuan Owen ddwywaith i sicrhau buddugoliaeth hanesyddol i’r Dreigiau (Barr 2-0 YSN).

Record cynghrair diweddar:

Y Seintiau Newydd: ͏͏✅✅✅✅✅

Y Barri: ͏✅✅✅✅✅

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.