'Peidiwch anghofio amdani': Anita yn ffarwelio ar ôl chwarter canrif ar Pobol y Cwm
'Peidiwch anghofio amdani': Anita yn ffarwelio ar ôl chwarter canrif ar Pobol y Cwm
Ar ôl dros chwarter canrif yng Nghwmderi, bydd Pobol y Cwm yn ffarwelio ag un o gymeriadau mwyaf hoffus y gyfres.
Ym mhennod ddydd Iau, mae cyfnod Anita, sydd yn cael ei phortreadu gan yr actores Nia Caron, yng Nghwmderi yn dod i ben.
Mae stori ddiweddar Anita wedi canolbwyntio ar ei phrofiad o fyw gyda dementia, a'r effaith mae'r cyflwr wedi ei chael ar y bobl o'i chwmpas.
Wrth i gyfnod Anita yng Nghwmderi ddirwyn i ben mewn pennod arbennig, dywedodd Nia Caron ei bod yn falch bod modd iddi ffarwelio â'r cymeriad mewn ffordd bositif.
"O'n i'n falch bo fi wedi cael gweud ffarwel wrth y cymeriad mewn ffordd bositif yn hytrach na gweld y cymeriad yn marw ar ei gwely angau," meddai wrth Newyddion S4C.
"Roedd e'n neis ofnadwy pan ges i'r sgript i wybod, 'o, chi'n mynd â hi nôl i, i'w man hyfryd hi.' I'r lle mae hi'n gyfarwydd ac yn hapus i fod yna.
"Roedd hwnna'n neis. Cael chwarae rhywbeth positif a cael gweud ffarwel wrth y cymeriad.
"Oedd e'n emosiynol i wneud achos o'n i yn gorfod codi llaw arnyn nhw. Ac wrth bod fi'n neud o'n i'n meddwl, 'O gosh, fi yn codi llaw arnoch chi gyd hefyd.'"
'Ma' nhw dal yna'
Bu Cymdeithas Alzheimer's yn rhoi cyngor i'r tîm cynhyrchu yn ystod y stori, gan eu helpu i ddeall math o ddementia sy'n cael ei achosi gan gyrff Lewy (dementia with Lewy bodies) a'u cysylltu â phobl oedd â phrofiad uniongyrchol o'r cyflwr.
Dros y ddwy flynedd diwethaf mae Anita wedi byw gyda'r cyflwr, gyda Kelly ac Ieuan yn edrych ar ei hôl, cyn iddi symud i gartref gofal Brynawelon.
Dywedodd Nia fod y cydweithio ag arbenigwyr wedi bod yn bwysig wrth iddi baratoi ar portreadu'r cymeriad.
"Nath bobl [Cymdeithas] Alzheimer's helpu fi hefyd. A fi 'di siarad gyda lot o bobl sydd wedi dioddef o'r clefyd," meddai.
"A doedd e ddim wedi bod yn brofiad pleserus, wrth gwrs, yn naturiol.
"Ond fi yn gobeithio bod dangos y cyflwr yn helpu pobl sydd yn mynd trwyddo yr afiechyd hyll yma.
"Achos yn y pen draw, beth o'n i eisiau dangos i bobl oedd, er bod chi'n colli y person, plîs credwch fi, ma' nhw dal yna.
"Achos fel'na o'n i'n chwarae'r rhan. Bob hyn a hyn, o'n i'n ymgolli yn y clefyd.
"Ond bob hyn a hyn, o'n i'n trial dangos, 'Fi dal yma. Fi dal yma'."
Dywedodd Rachel, Rheolwr Cymru ar gyfer Gwasanaethau Lleol Cymdeithas Alzheimer's Cymru, fod y sefydliad yn croesawu straeon fel un Anita am eu bod yn gallu dechrau trafodaethau am ddementia mewn cartrefi a chymunedau.
"Yr hyn mae Pobol y Cwm wedi ei ddangos yn arbennig o dda yw nad yw dementia yn effeithio ar un person yn unig," meddai.
"Mae'n effeithio ar berthnasoedd, teuluoedd, ffrindiau a'r gymuned ehangach.
"Mae gwylwyr wedi gweld Anita yn wynebu newidiadau i'w chof, dryswch a'i hannibyniaeth, ond maen nhw hefyd wedi gweld yr effaith ar y bobl o'i chwmpas, gan gynnwys Kelly ac Ieuan.
"Mae dementia yn chwalu bywydau, ond gall dealltwriaeth a chefnogaeth wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae straeon fel hyn yn helpu i leihau stigma, cynyddu dealltwriaeth ac annog pobl i chwilio am gymorth yn gynharach.
"Mae wedi dangos yr effaith emosiynol ar berthnasoedd teuluol, y newidiadau mewn hyder ac annibyniaeth, a'r heriau mae teuluoedd yn eu hwynebu wrth iddyn nhw addasu wrth i'r cyflwr ddatblygu.
"Bydd nifer o bobl sy'n byw gyda dementia, a nifer o ofalwyr ledled Cymru, yn adnabod rhannau o brofiad Anita, er nad oes dwy daith yn union yr un fath."
Cafodd pennod olaf Anita ei chreu mewn ffordd wahanol i bennod arferol o'r sebon, gyda'r bennod yn cael ei saethu i gyd mewn un shot.
"Sa i'n credu bod dim byd fel 'na wedi cael ei wneud o'r blaen. Jyst stori un cymeriad," meddai Nia.
"Ar gyfer y bennod yna, fe gafon ni llawer mwy o amser i dreulio i wneud yn siŵr bod y neges yn dod drosodd yn neis a, a cael ymlacio mewn i'r bennod a cael neud perfformiad gwych, fi'n gobeithio.
"Er mwyn ffarwelio'n iawn."
'Pinacl'
Fe gyrhaeddodd Anita yng Nghwmderi am y tro cyntaf yn 1999, wrth iddi gael ei chyflwyno i'r gynulleidfa fel mam i Darren.
Er iddi ymddangos yn achlysurol i gychwyn, fe ddaeth yn gymeriad parhaol yn 2000 ac mae wedi bod yn ganolbwynt i sawl stori dros y chwarter canrif diwethaf.
O golli ei merch, Eira, a'i mab Dwayne, i weithio tu ôl i'r bar yn Y Deri a chael affêr gyda Colin, mae Anita wedi profi sawl emosiwn gwahanol.
"Priodasau. Y ffaith bod fi 'di cael priodi Gareth Lewis [fu'n portreadu Meic] yn feichiog, yn disgwyl babi, [ac wedyn] colli'r babi," meddai Nia Caron, wrth restru'r straeon mwyaf cofiadwy.
"Cael bod tu ôl y bar yn Y Deri, oedd hwnna'n 'Yay I've arrived' fath o beth... Oedd hwnna'n binacl yn bendant i fi a Gareth. Gafon ni lot o hwyl tu ôl y bar.
"A wrth gwrs y tân enfawr. Deri'n llosgi lawr. Oedd hwnna'n drist.
"Colli mab, Dwayne. Gorfod byw gyda hwnna wedyn. Mae hi wedi bod trwy lot, ond roedd rhywbeth yn Anita. Mae'n gryf, mae'n gadarn."
Meic ac Anita
Dywedodd Nia Caron fod Anita wedi bod "yn ferch ddrwg" hefyd, ac wedi bod gyda dynion gwahanol yng Nghwmderi.
Ymhlith y rhain oedd Colin, Moc a DJ, ond roedd un dyn wedi bod yn gefn iddi trwy'r cyfan, sef Meic.
Wrth edrych yn ôl ar y bobl sydd wedi bod yn rhan o stori Anita, dywedodd Nia fod gweithio gyda Gareth Lewis, oedd yn chwarae Meic, wedi bod yn rhan arbennig o'i chyfnod ar y rhaglen.
"Byddwn i'n gweud bod Meic ag Anita, byddwch chi byth yn gallu gwahanu nhw," meddai.
"Maen nhw wedi mynd ar wahân a dod yn ôl ar wahân, ond mae 'na ryw fath o lud yn cadw nhw gyda'i gilydd yn bendant.
"Mae Gareth a fi ni'n ffrindiau enfawr, so gafes i lot fawr o sbort gyda Gareth."
Yn y bennod olaf mae sawl hen wyneb cyfarwydd yn dychwelyd i'r cwm, gan gynnwys Jason, DJ, Sheryl - ac, wrth gwrs, Meic.
"Roedd e fel yn cloi y cyfan i fi," meddai Nia. "Roedd hwnna'n neis."
Beth nesaf i Nia Caron?
Mae Anita wedi bod yn ran barhaol o fywyd Nia Caron am 27 o flynyddoedd, ac mae hi'n un o gymeriadau mwyaf hoffus y cwm.
Wrth iddi ffarwelio â strydoedd Cwmderi am y tro olaf, beth yw ei neges i'r gwylwyr sydd wedi dilyn Anita drwy'r blynyddoedd?
"Peidiwch anghofio amdani," meddai.
"A fi'n siŵr byddwch chi ddim yn cael cyfle i anghofio amdani achos bydd rhywun yn rhywle yn siarad amdani yn y pentref, fi'n gobeithio.
"A mewn ffordd bositif achos fi ddim yn gwybod beth sydd yn digwydd fy hun ar ôl iddi fynd.
"So bydda i'n edrych ymlaen i weld beth sydd yn digwydd a bydda i cyntaf i ffonio mewn os bydda i'n anghytuno."
Er bod un drws yn cau, dywedodd Nia ei bod yn barod am yr hyn a ddaw nesaf.
"Fi 'di ymlacio digon, fi'n barod i ddechrau 'to," meddai.
"Fi'n gobeithio bydd y drysau'n agor a bydda i'n gallu chwarae cymeriadau di-ri.
"A fi'n licio meddwl bod fi'n mynd i ysgrifennu tamaid bach hefyd.
"Dyw'r drws ddim wedi cau yn bendant. Ddim ar Nia Caron byth bynnag. Mae un yn cau ond mae 'na arall yn agor."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan yr erthygl hon neu stori Anita, mae cymorth ar wefan S4C neu drwy ffonio Llinell Gymorth Dementia Cymdeithas Alzheimer's yn Saesneg (0333 150 3456) neu yn Gymraeg (03300 947 400.)
