Pedwar yn pledio'n euog i anrhefn treisgar wedi protestiadau yn sgil llofruddiaeth Henry Nowak

Henry Nowak
Henry Nowak

Mae pedwar dyn wedi pledio'n euog i anhrefn treisgar ar ôl i'r heddlu ddod o dan ymosodiad yn ystod protestiadau yn Southampton yr wythnos hon yn dilyn llofruddiaeth y myfyriwr Henry Nowak.

Cafodd 11 o swyddogion Heddlu Hampshire a chi heddlu eu hanafu wrth i wrthrychau gael eu taflu yn y ddinas ddydd Mawrth, gan gynnwys biniau a chadeiriau.

Ymddangosodd Harry Varney, 34 oed; Taylor Grundy, 22 oed; Dillon Crawford, 29 oed; ac Andrew Summerhayes, 38 oed yn Llys Ynadon Southampton ddydd Sadwrn.

Plediodd y pedwar yn euog i anhrefn treisgar, a phlediodd Summerhayes yn euog hefyd i ddau gyhuddiad o feddu ar arf ymosodol mewn man cyhoeddus.

Cafodd y protestiadau eu sbarduno ar ôl i ddeunydd fideo o'r camerâu roedd yr heddlu yn eu gwisgo wrth ymateb i lofruddiaeth Mr Nowak gael ei ryddhau, gan ddangos y myfyriwr 18 oed yn cael ei roi mewn cyffion ar ôl iddo gael ei drywanu ym mis Rhagfyr.
 
Roedd y deunydd yn dangos Mr Nowak yn dweud wrth yr heddlu nad oedd yn gallu anadlu, cyn iddo syrthio'n anymwybodol a marw'n ddiweddarach.
 
Roedd y dyn oedd wedi ei drywanu, Vickrum Digwa, wedi dweud wrth yr heddlu bod Mr Nowak wedi ymosod yn hiliol arno, ond celwydd oedd hyn.
 
Cafodd Digwa ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Mr Nowak ddydd Llun.
 

Y cyhuddiadau

Dywedodd yr erlynydd Robert Salame wrth y llys fod Crawford wedi'i gyhuddo o ddefnyddio "eitemau mawr gan gynnwys biniau a chadeiriau" yn erbyn swyddogion yr heddlu, tra bod Summerhayes yn cael ei gyhuddo o daflu eitemau, gan gynnwys biniau, at swyddogion.

Dywedodd Mr Salame fod Varney wedi'i gyhuddo o wrthod symud pan ofynnwyd iddo wneud hynny gan swyddogion yr heddlu ac o wthio yn erbyn eu tarianau.

Roedd Grundy wedi'i gyhuddo o wthio "bin diwydiannol mawr" i gyfeiriad swyddogion yr heddlu, ychwanegodd.

Siaradodd y pedwar diffynnydd o'r doc i gadarnhau eu henwau, eu cyfeiriadau a'u dyddiadau geni, cyn cael eu cadw yn y ddalfa nes eu gwrandawiad yn Llys y Goron Southampton ddydd Mercher.

Mewn gwrandawiad ar wahân, ni wnaeth Kevin Reeves, 31 oed, nac Andrew Riddett, 38 oed, gyflwyno ple i gyhuddiadau o anhrefn treisgar.

Dywedodd Mr Salame fod Reeves wedi'i gyhuddo o ddefnyddio "côn traffig ac eitemau mawr eraill", ac o annog eraill i ddefnyddio'r "eitemau mawr" hyn yn erbyn swyddogion yr heddlu yn ystod y brotest.

Ychwanegodd fod Riddett wedi'i gyhuddo o boeri at swyddog heddlu ac o ymddwyn yn ymosodol, yn ogystal ag annog eraill i ddefnyddio trais yn erbyn swyddogion yr heddlu yn ystod y brotest.

Cafodd Reeves a Riddett hefyd eu cadw yn y ddalfa nes eu gwrandawiad yn Llys y Goron Southampton ddydd Mercher.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.