Parhau i annog pobl yn y Rhondda i ferwi dŵr ar ôl 'datrys' problem
Mae Dŵr Cymru yn parhau i annog i bobl ar draws rhannau helaeth o Rondda Cynon Taf i ferwi eu dŵr tap er eu bod nhw’n dweud bod y broblem wedi ei ddatrys.
Roedd y cwmni wedi darganfod problem ddydd Gwener gyda'r broses gemegol roedden nhw’n yn ei defnyddio i drin dŵr yfed yng Ngorsaf Trin Dŵr Maerdy.
Mewn datrganiad nos Sul roedden nhw’n parhau i annog pobl i ferwi eu dŵr tap cyn ei ddefnyddio i yfed neu goginio.
Dywedodd Steve Wilson, Prif Swyddog Gweithredu Dŵr Cymru, mai iechyd a diogelwch y cyhoedd yn parhau i fod yn “flaenoriaeth lwyr” i’r cwmni.
“Does gennym ni ddim amserlen ar hyn o bryd, gan ein bod yn parhau i gymryd samplau o’r rhwydwaith a monitro ansawdd y dŵr,” meddai wrth ITV.
“Mae’n rhwydwaith hir iawn... ac mae’n bwysig i ni sicrhau ein bod yn gallu profi ansawdd y rhwydwaith, a’n bod yn sicr ei fod yn ddiogel cyn y gallwn roi’r gorau i’r hysbysiad hwn.
“Mae rhai o’r profion hyn hefyd yn cymryd cryn dipyn o oriau i’w dadansoddi yn y labordy, a dyna sy’n cymryd yr amser.
“Rwy’n diolch i gwsmeriaid am fod yn amyneddgar gyda ni ar hyn o bryd. Rydyn ni’n ceisio datrys hyn cyn gynted ag y gallwn.”
Mae tair gorsaf dŵr potel wedi eu sefydlu yn yr ardal, wedi eu lleoli yn:
- Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn, Ferndale, CF43 4AB
- Maes Parcio Sardis Road, Pontypridd, CF37 1LE
- Canolfan Chwaraeon Rhondda, Pentre, CF41 7SY
Dywed Dŵr Cymru eu bod yn ymgynghori â Chyngor Rhondda Cynon Taf i benderfynu a fydd angen gorsafoedd pellach.
Maen nhw hefyd yn dweud eu bod nhw yn dosbarthu dŵr potel i’w gwsmeriaid mwyaf bregus ac i gartrefi gofal.
Dywedodd Dŵr Cymru fod cwsmeriaid sy’n cael eu heffeithio yn cael neges destun.
Mewn datganiad brynhawn Sul, dywedodd Dŵr Cymru: “Yn dilyn ymchwiliad gan ein timau gweithredol, mae'r broblem a oedd yn effeithio ar y broses dosio cemegol yng ngwaith trin Maerdy bellach wedi'i datrys ac mae dŵr o'r safle yn ailymuno â'r rhwydwaith.
“Mae hwn yn gam pwysig ymlaen wrth ddatrys y digwyddiad yn ddiogel.
“Fel rhagofal, mae'r rhybudd berwi dŵr yn parhau mewn grym a gofynnwn i chi barhau i ddilyn y canllawiau a berwi dŵr tap cyn yfed, brwsio dannedd, paratoi bwyd neu wneud iâ tan hysbysiad pellach.”
Mae’r Hysbysiad Berwi Dŵr yn effeithio ar gwsmeriaid yn yr ardaloedd canlynol:
Blaenllechau, Bryngolau, y Cymer, Dinas, Edmondstown, Glynrhedynog, Trehopcyn, Llwyncelyn, y Maerdy, Tylorstown, Pen-rhys, Pont-y-gwaith, y Porth, Pwll Gwaun, Pant-y-graig-wen, Pontypridd – Trefforest, Trebanog, Rhiw-garn, Tonyrefail, Tyn y Bryn, Trehafod, Wattstown, Trewiliam, Ynys-hir.