Pam fod yr Ysgrifennydd Amddiffyn yn galw ar bobl i fod yn barod am argyfwng?
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Wes Streeting wedi galw ar bobl i fod yn barod am argyfwng wrth rybuddio y gallai ymosodiadau seiber ddigwydd “yn amlach ac yn amlach”.
Mae cartrefi’n cael eu hannog i gadw digon o fwyd, dŵr a chyflenwadau hanfodol am dri diwrnod rhag ofn y bydd argyfwng yn tarfu ar wasanaethau bob dydd.
Mae’r cyngor yn rhan o ymgyrch newydd i annog pobl i fod yn barod am broblemau fel toriadau trydan, methiant mewn systemau talu neu ymosodiadau seiber.
Ond mae rhai wedi cwestiynu a allai’r ymgyrch godi bwganod ac annog pobl i brynu mewn panig.
Beth mae’r Llywodraeth yn gofyn i bobl ei wneud?
Maen nhw’n galw ar gartrefi i sicrhau fod ganddyn nhw:
- Ddigon o ddŵr potel a bwyd am dri diwrnod.
- Radio FM sy’n gweithio â batris neu drwy ei weindio, er mwyn cael diweddariadau os bydd gwasanaethau’n methu.
- Arian parod rhag ofn na fydd taliadau electronig neu beiriannau arian (ATM) yn gweithio.
Y nod yw helpu pobl i ymdopi am gyfnod byr os na fydd y gwasanaethau maen nhw’n dibynnu arnyn nhw ar gael.
Oes bygythiad penodol?
Yn ôl Mr Streeting, nid oes “rhywbeth penodol” ganddo mewn golwg wrth roi’r cyngor.
Wrth siarad ar raglen Question Time BBC One, dywedodd y gallai’r cyflenwadau fod yn ddefnyddiol yn ystod toriad trydan neu pe bai siop leol yn dioddef ymosodiad seiber.
Ond mae hefyd wedi rhybuddio am y posibilrwydd y gallai gwladwriaethau gelyniaethus neu derfysgwyr darfu ar y Deyrnas Unedig.
“Sut fydden ni’n ymdopi pe bai’r systemau talu yn yr archfarchnad leol yn methu?” gofynnodd.
Pam mae ymosodiadau seiber yn rhan o’r drafodaeth?
Yn ôl y gweinidog, gallai datblygiadau mewn deallusrwydd artiffisial greu bygythiadau seiber newydd.
Daeth lansiad yr ymgyrch wrth i sefydliadau ledled y byd geisio datrys gwendid diogelwch difrifol yn PHP, iaith raglennu sy’n cael ei defnyddio gan bron i 70% o wefannau.
Gallai’r gwendid ganiatáu i ymosodwyr reoli gweinyddion gwe o bell. Yn ôl Amazon a Cloudflare, daeth ymdrechion i fanteisio ar y gwendid i’r amlwg o fewn oriau i’r cyhoeddiad.
Dywedodd gweinidog ddydd Iau fod 32 o wasanaethau Llywodraeth y DU wedi eu tynnu oddi ar-lein.
Pam mae’r cyngor wedi cael ei feirniadu?
Ar Question Time, gofynnodd aelod o’r gynulleidfa a allai’r ymgyrch godi bwganod ac annog pobl i brynu mewn panig, fel y digwyddodd yn ystod pandemig Covid-19.
Dywedodd Mr Streeting fod y Llywodraeth wedi trafod y perygl hwnnw, ond bod gwledydd eraill yn Ewrop ymhell ar y blaen i’r DU o ran paratoi ar gyfer argyfyngau.
Dywedodd Ysgrifennydd Tramor yr Wrthblaid, Tom Tugendhat, ei bod yn gwbl resymol gofyn i bobl gadw cyflenwadau am sawl diwrnod.